Mae rôl cynghorydd yn gymhleth ac yn ddwys ac yn dod yn gynyddol heriol gyda phob cyfnod newydd mewn swydd. Mae Cynghorau yn darparu’r gefnogaeth mae holl gynghorwyr ei hangen i gyflawni’r deilliannau sydd eu hangen gan eu cymunedau. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth, canllawiau a datblygiad.
Mae gan Gynghorau hanes maith o weithio gyda’i gilydd a gyda CLlLC i rannu gwybodaeth, arfer da ac adnoddau ar gyfer cefnogi a datblygu cynghorwyr. Mae’r Fframwaith Hunanwerthuso Cefnogaeth i Gynghorwyr hwn yn darparu dull i gynghorau sicrhau eu hunain fod ganddynt yr holl gefnogaeth bosibl ar waith i’w cynghorwyr. Mae’r Fframwaith wedi cael ei ddatblygu gan CLlLC, swyddogion gwasanaethau democrataidd a chynghorwyr ac mae’n darparu fframwaith cenedlaethol uchelgeisiol ond pragmatig o arfer da i gefnogi cynghorwyr. Mae’n cydnabod gofynion deddfwriaethol, canllawiau statudol a chanllawiau eraill, yr anghenion a fynegwyd gan gynghorwyr ac enghreifftiau a dderbynnir yn gyffredinol o’r hyn sy’n gweithio.
Mae’r Fframwaith hefyd yn adlewyrchu’r dull o dan arweiniad sector a gymerir gyda’r rhaglen ehangach ar gyfer gwelliant a hunanasesu yng Nghymru ac mae’n galluogi rhannu arfer da rhwng cynghorau.
Mae’r Fframwaith yn cynnwys:
- cefnogaeth a datblygiad i gynghorwyr yn yr ystyr ehangaf i ymgorffori cefnogaeth gan y cyngor cyfan. Gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, er enghraifft, gwasanaethau democrataidd,timau cyfreithiol, digidol, cyfathrebu, dysgu a datblygu, a chyfarwyddiaethau yn eu cefnogaeth ar gyfer craffu, y bwrdd gweithredol a chynghorwyrrheng flaen,
- anghenion pob cynghorydd cyn etholiad, fel aelodau newydd ac fel gwleidyddion profiadol,
- holl rolau cynghorydd o fewn y cyngor ac yn y gymuned,
- cefnogaeth bersonol a ‘phroffesiynol’ a ddarperiri gynghorwyr o fewn dylanwad cynghorau a hefyd
- disgwyliadau a osodir ar gynghorau, swyddogion, a chynghorwyr eu hunain.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Sarah Titcombe