Sefydlwyd Prosiect Cynorthwyo Plant Milwyr yn Ysgolion Cymru yn 2014 yn sgîl llwyddiant cais am arian o Gronfa Cynnal Addysg Gweinyddiaeth Amddiffyn San Steffan. Penododd WLGA swyddog gweinyddu’r prosiect gan ofyn iddo ganolbwyntio ar bennu faint o ddata ac ymwybyddiaeth oedd yn yr ysgolion a’r awdurdodau lleol ledled y wlad o ran effaith symud yn aml ac absenoldeb rhieni ar blant milwyr amser llawn, cyn-filwyr a milwyr rhan-amser.
Erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf, roedd darlun o’r sefyllfa trwy Gymru gyfan ac roedd rhai o’r anawsterau ynglŷn â hel data a chodi ymwybyddiaeth wedi dod i’r amlwg o ganlyniad i arolwg Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru. At hynny, roedd rhai adnoddau wedi’u llunio ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a rhieni. Ers hynny, mae rhagor o arian wedi’i neilltuo i alluogi’r prosiect i ddatblygu gwaith ledled y wlad megis llunio gwefan Cefnogi Plant Milwyr mewn Addysg Cymru a fideos, sefydlu rhith rwydwaith a threfnu’r gynhadledd gyntaf am faterion plant milwyr.
Cynhaliwyd yr ail gynhadledd am faterion plant ar 12 Mehefin 2018 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, agorwch y ddolen yma am rhagor o fanylion. Cyhoeddwyd SSCE Cymru ei adroddiad ymchwil ar brofiadau teuluoedd y lluoedd arfog gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol mewn addysg yng Nghymru yn ystod y digwyddiad, comisiynir Sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, Prifysgol De Cymru ac Ymchwil Arad i wneud y gwaith. Agorwch y ddolen yma i weld yr adroddiad.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Millie Taylor