Cydbwyllgorau Corfforaethol
Cefnogi awdurdodau sy’n aelodau i sefydlu pa gefnogaeth sydd ei angen i gefnogi’r broses o sefydlu Cydbwyllgorau Corfforaethol.
Hunanasesiad
Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer etholiadau, democratiaeth, llywodraethu a pherfformiad llywodraeth leol. Mae’r Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ei gwneud yn ofynnol i bob Cyngor yng Nghymru barhau i adolygu, drwy hunanasesu, i ba raddau y mae’n bodloni’r ‘gofynion perfformiad’, hynny yw i ba raddau y maent:
- yn gweithredu eu swyddogaethau yn effeithiol
- Yn defnyddio’u hadnoddau yn economaidd, yn effeithiol ac yn effeithlon
- Y mae eu trefniadau llywodraethu yn effeithiol ar gyfer sicrhau’r uchod
Mae’r Ddeddf hefyd yn rhoi dyletswydd i gyhoeddi adroddiad yn nodi canlyniadau eu hunanasesiad unwaith ar gyfer pob blwyddyn ariannol.
Asesiadau Perfformiad Panel
Llunio a chytuno ar fframwaith a model ar gyfer asesiadau panel, a chyflwyno dau beilot o ddulliau asesu panel.
Cyfansoddiad Model Diwygiedig
Gweithio gyda chyfreithwyr mewn Llywodraeth Leol er mwyn adolygu’r cyfansoddiad model cenedlaethol a chanllaw’r cyfansoddiad er mwyn ei addasu’n lleol.
Ymgysylltu a Chyfranogiad Cyhoeddus
Hwyluso cyfnewidfa arfer da a chefnogaeth, cyd-gynhyrchu ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Cefnogi gwaith sy’n ymwneud â datblygu Llawlyfr Democratiaeth a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Data a Gwybodaeth
Gweithio gydag aelodau a Data Cymru i ddatblygu a chytuno ar set gyson o fesurau perfformiad craidd ar gyfer cynghorau Cymru ac adeiladu sgiliau data lleol, galluogrwydd a chapasiti o ran data agored, dadansoddi cyfryngau cymdeithasol ac ymgysylltu â’r cyhoedd.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o'r cymorth, cysylltwch â Jo Hendy:
jo.hendy@wlga.gov.uk