Is-grŵp i Gyngor Partneriaeth Cymru yw'r Is-grŵp Cyllid.
Yr is-grŵp yw mecanwaith ffurfiol Llywodraeth Cymru ar gyfer trafod materion cyllid llywodraeth leol penodol gyda chynrychiolwyr llywodraeth leol sydd wedi’u henwebu. Mae'r Grŵp yn cynghori ac yn ymgynghori yn hytrach na gwneud penderfyniadau.
Mae cylch gwaith y Cyngor Partneriaeth yn cynnwys diwygio a chydweithredu gwasanaethau cyhoeddus, cyflymu’r gwaith o wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a chymryd camau i wneud gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithiol ac effeithlon.
Cadeirydd y Grŵp yw’r Gweinidog â chyfrifoldeb dros Lywodraeth Leol (y Gweinidog), neu Weinidog arall a enwebwyd yn ei le.
Dyma agenda, cofnodion a phapurau pob un o gyfarfodydd y cylch.