Nod

Creu gwasanaethau gwych i ddinasyddion sy'n byw, ymweld a gweithio yng Nghymru

Digidol

"Llywodraeth Leol yn darparu rhai o'r gwasanaethau pwysicaf yng Nghymru"

Ein pwrpas yw helpu a chefnogi awdurdodau lleol i ddarparu'r gwasanaethau digidol gorau i holl drigolion ac ymwelwyr yng Nghymru.

 

Yn gyntaf, rydyn ni yma i gefnogi. Rydym yn helpu awdurdodau lleol i oresgyn heriau amrywiol sy'n ei gwneud hi'n anodd dylunio a gweithredu gwasanaethau digidol. Rydym yn gwneud hyn mewn sawl ffordd, megis annog cydweithredu rhwng awdurdodau lleol, helpu gydag adnoddau, a thrwy gynnal hyfforddiant a digwyddiadau i gynyddu'r sgiliau digidol ledled Cymru.

 

Yn ail, rydym yma i arloesi. Rydym yn credu mewn Arloesedd sy'n cael ei Sbarduno gan Ganlyniadau (Outcome Driven Innovation), felly rydym am sicrhau bod ein gwasanaethau'n canolbwyntio ar bobl. I wneud hyn, rydym yn manteisio ar yr arbenigedd a'r brwdfrydedd yn ein tîm a'n partneriaid i greu atebion arloesol i ddiwallu anghenion trigolion Cymru.

 

Yn olaf, rydym yma i sicrhau bod ein gwasanaethau'n gynhwysol. Mae hyn yn golygu bod gwasanaethau yng Nghymru yn hygyrch i bawb. Mae pawb yn ein tîm yn credu'n gryf bod angen i bob gwasanaeth fod i bawb. Byddwn yn sicrhau ein bod yn byw yn ôl yr egwyddor o greu'r gwasanaethau gorau i'r holl bobl trwy'r amser. 


I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n gwefan: Digidol Llywodraeth Leol Cymru

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30