Maniffesto ar gyfer Llywodraeth Cymru 2026

Cymru Wydn, yn Barod i’r Dyfodol

 

Llywodraeth leol yw sylfaen bywyd cyhoeddus yng Nghymru. Bob dydd, mae cynghorau yn darparu’r gwasanaethau hanfodol sy’n cadw ein cymunedau yn ddiogel, wedi eu cefnogi ac yn fynnu. Er mae’r pwysau mae’r gwasanaethau hynny yn eu hwynebu yn fwy nag erioed. Fel mae’r maniffesto hwn yn ei gwneud yn glir, mae cynghorau Cymru angen i Lywodraeth nesaf Cymru “ariannu ein pwysau cyfredol o ran galw yn briodol a theg, sydd yn fygythiad uniongyrchol i les ein cymunedau”. Heb gyllid cynaliadwy, hirdymor, ni all cynghorau symud o ddelio â phroblemau i’r blaengynllunio mae ein trigolion yn ei haeddu.

 

Mae’r maniffesto hwn yn gosod gweledigaeth glir ac adeiladol ar gyfer tymor nesaf y Senedd: un sydd wedi ei hadeiladu ar bartneriaeth, atal a lle. Rydym yn galw am ymrwymiad o’r newydd i gyllid aml-flwyddyn, teg a hyblyg; ar gyfer dull gweithredu cyffredin o ran mynd i’r afael â’r pwysau eithriadol mewn gofal cymdeithasol, addysg a thai; ac ar gyfer Rhaglen Lywodraethu sy’n cydnabod y swyddogaeth allweddol sydd gan gynghorau wrth gefnogi pobl trwy’r argyfwng costau byw, gwella cyfleoedd bywyd, a chryfhau gwytnwch cymunedol. 

 

Rydym hefyd yn gosod sut y gall Cymru hyderus, fodern groesawu cyfleoedd newydd. Mae cynghorau yn sefyll yn barod i helpu i gyflawni cenedl ddigidol, ble mae gwasanaethau wedi eu dylunio o amgylch angen defnyddwyr a ble mae buddsoddiad mewn sgiliau ac isadeiledd digidol o fudd i bob cymuned.

 

I gyflawni hyn, mae CLlLC yn glir: rhaid trin llywodraeth leol fel partner cyfartal. Mae’r Cytundeb Partneriaeth Strategol gyda Llywodraeth Cymru wedi dangos beth ellir ei gyflawni pan fyddwn yn cydweithio, ac rydym yn galw iddo gael ei adnewyddu a’i gryfhau. Mae cynghorau yn dod ag arbenigedd dwfn, mewnwelediad lleol ac ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus sy’n hanfodol i siapio polisi a deddfwriaeth effeithiol. Rydym eisiau cymryd rhan yn gynharach, yn fwy cyson, a gyda’r adnoddau sydd eu hangen i gyfrannu’n llawn.

 

Mae’r maniffesto hwn hefyd yn edrych ymlaen at E ddyfodol llywodraeth leol ei hun. Trwy ein gwaith ar y cyd gyda Chanolfan Adolygu Polisi Cyhoeddus Cymru, rydym yn edrych ar sut y gall cynghorau aros yn gynaliadwy, wedi eu grymuso ac yn addas ar gyfer y degawdau i ddod. Rydym yn glir y dylid gwneud penderfyniadau mor agos at gymunedau â phosib, ac y dylai unrhyw ddiwygio gryfhau-nid gwanhau democratiaeth leol.

 

Rydym yn cynnig y maniffesto hwn mewn ysbryd o bartneriaeth a gobaith, gan adlewyrchu dyhead a rennir gan ein 22 Cyngor yng Nghymru. Gyda’r pwerau cywir, yr adnoddau cywir ac ymrwymiad newydd i gydweithio, gall llywodraeth leol helpu i greu Cymru decach, gwyrddach a fwy llewyrchus i bawb.


 

  Amdanon ni

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30