Cynllun Lleoliad Peirianneg Amgylcheddol Cymru 2026/27

Gwneud gwahaniaeth go iawn i’n hamgylchedd a’n cymunedau yng Nghymru

Ydych chi’n chwilio am yrfa lle gallwch wneud gwahaniaeth go iawn i’n hamgylchedd yng Nghymru? 

Ydych chi wedi ystyried gyrfa mewn peirianneg amgylcheddol gan fynd i’r afael â materion pwysig megis llifogydd, erydu arfordirol, adfer etifeddiaeth mwyngloddiau neu ddraenio cynaliadwy? Fel peiriannydd amgylcheddol gallwch wneud gwahaniaeth i faterion amgylcheddol sydd wirioneddol o bwys i bobl yng Nghymru a dechrau ar yrfa gyffrous. 

 

Wrth i’n hinsawdd newid, mae Cymru yn wynebu heriau newydd, o lawiad mwy dwys a lefel y môr yn codi i sychder.  Mae’r newidiadau hyn yn cynyddu’r risg o lifogydd, gan fygwth tai, isadeiledd a bywydau.  Maent hefyd yn dod â heriau newydd o ran rheoli etifeddiaeth ein gorffennol diwydiannol — yn enwedig hen safleoedd mwyngloddio ar draws y wlad, a all gyflwyno risgiau amgylcheddol a diogelwch ychwanegol os ydynt yn cael eu haflonyddu. 

 

Os ydych yn angerddol am ddiogelu pobl a’r amgylchedd yng Nghymru, gall gyrfa mewn peirianneg amgylcheddol fod i chi.  Dyma eich cyfle i helpu i adeiladu Cymru fwy diogel a gwydn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.


Lansiwch eich gyrfa gyda lleoliad gwaith deg mis o hyd â thâl  

Mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chynghorau sy’n cymryd rhan, yn cynnig lleoliadau gwaith deg mis o hyd â thâl i’ch helpu i gymryd eich camau cyntaf i’r byd peirianneg amgylcheddol — gyda phwyslais ar reoli risg llifogydd ac arfordirol, adfer etifeddiaeth mwyngloddiau a draenio.

 

Beth sy’n cael ei gynnig?

  • Hyd y Lleoliad Gwaith: 31 Mai 2026 – 31 Mawrth 2027
  • Sefydliadau Cynnal: Cynghorau sy’n cymryd rhan yng Nghymru
  • Cymorth: Hyfforddiant mewn gwaith, mentora a datblygiad proffesiynol 
  • Canlyniadau: Profiad go iawn, sgiliau newydd a charreg camu i yrfa hirdymor

 

Ceisiadau

Mae’r Rhaglen yn croesawu ceisiadau gan ystod eang o gefndiroedd — yr hyn sydd bwysicaf yw eich diddordeb yn yr amgylchedd a’ch cymhelliant i adeiladu gyrfa yn y sector cyffrous a heriol hwn. Cyfeiriwch at hysbysebion y Cyngor ar gyfer manylion penodol.

 

Efallai eich bod:

  • Ar fin cwblhau eich astudiaethau, gyda chymhwyster perthnasol ar lefel gradd [*1] ac yn chwilio am gyfle lleoliad gwaith, neu
  • yn gweithio mewn maes perthnasol [*2], gyda phrofiad gwaith perthnasol [*2] ac yn chwilio am lwybr gyrfa newydd. 

*1 bydd cymhwyster perthnasol yn cynnwys unrhyw bwnc sy’n ymwneud â Gwyddoniaeth, Peirianneg, Daearyddiaeth, Daeareg, Mathemateg, Hydroleg, Adnoddau Dŵr, Mwyngloddio a phynciau perthnasol. 

*2 mae profiad perthnasol yn eang iawn a gall gynnwys unrhyw rolau amgylcheddol, peirianneg, rheoli prosiect, isadeiledd, gwasanaethau amgylcheddol neu brofiad perthnasol yn gweithio mewn neu gyda llywodraeth ganolog neu lywodraeth leol

 

Cynhwysol a chefnogol

Trwy’r Rhaglen, rydym yn annog ceisiadau gan unigolion sy’n cael eu tangynrychioli yn y sector ar hyn o bryd, yn cynnwys merched, pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig, pobl anabl a siaradwyr Cymraeg.

 

Beth sy’n digwydd ar ôl y lleoliad?

Ar ôl eich lleoliad, efallai byddwch yn dychwelyd i’ch astudiaethau, efallai bydd gennych gyfle i barhau gyda’ch cyflogwr cynnal, neu efallai byddwch yn defnyddio eich profiad a’ch sgiliau newydd i sicrhau rôl yn rhywle arall.  Byddwch yn rhan o rwydwaith ehangach o gyfranogwyr lleoliad ar draws Cymru ac yn cael gwybod am gyfleoedd yn y dyfodol yn y sector.


 

  Amdanon ni

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30