Mae’r ddeddf ar waith ers 29ain Ebrill 2015 ac mae’i gofynion yn berthnasol i gyrff cyhoeddus Cymru ers 1af Ebrill 2016. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau am y ddeddf yn ogystal â llunio diagramau i esbonio’r effaith a ddaw. Mae un diagram yn amlinellu trefn y ddeddf ac mae un arall yn cyflwyno’r saith nod a’r pum ffordd o weithio, sef:
 
	- defnyddio dull cyfun gan ystyried sut mae cyfrannu at y nodau i gyd
 
	- cydweithio â chyrff eraill i ddatrys problemau ar y cyd
 
	- cadw’r pen draw ac anghenion cenedlaethau’r dyfodol mewn cof
 
	- cynnwys trigolion y fro mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu natur amryfal y boblogaeth
 
	- deall achosion problemau a cheisio eu hosgoi lle bo modd
 
 
Mae’r ddeddf hon wedi sefydlu Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, hefyd. Mae ganddo hawl i adolygu’r modd mae cyrff cyhoeddus yn diogelu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion. Derek Walker sydd yn y swydd ar hyn o bryd.
 
Mae manylion y ddeddf ar wefan Llywodraeth Cymru.