Mae CLlLC wedi llwyddo gyda chais am gyllid o Lywodraeth Cymru i ddarparu Rhaglen Cefnogi Newid Hinsawdd ar gyfer Cynghorau Cymru.
Nodau’r rhaglen fydd cefnogi cynghorau Cymru gyda’i gilydd i baratoi ar gyfer sector cyhoeddus sero net yng Nghymru erbyn 2030.
Ei nod yw gwneud hyn trwy;
- helpu pob cyngor yng Nghymru i ddatblygu cynlluniau gweithredu datgarboneiddio effeithiol, wedi’u seilio ar dystiolaeth, gan gomisiynu ymchwil ac offer i ddarparu data ac arweiniad i gefnogi hwn;
- hwyluso cyfathrebu cydweithredol, dwyffordd rhwng cynghorau a Llywodraethau Cymru a'r DU, a'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector ehangach, a;
- tynnu sylw at gyfleoedd i weithio ar raddfa a chefnogi hyfforddiant a rhannu gwybodaeth.
Bydd wybodaeth am y gweithgareddau o dan ein Rhaglen Cefnogi Newis Hinsawdd a’r adnoddau cysylltiedig ar gael ar y wefan hon. Mae’r cynllun busnes yn ddogfen sy’n datblygu ond mae croeso i chi ofyn am gopi ohoni ar unrhyw adeg.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Tim Peppin