Mae gofyn statudol i awdurdodau lleol ystyried sut bydd anghenion yr ardal, o ran tai, yn cael eu diwallu. Felly, mae pob rhan o'r farchnad yn bwysig, yn arbennig y sector preifat lle mae 84% o gartrefi Cymru – 69% ac ynddyn nhw eu perchnogion a 15% ac ynddyn nhw denantiaid.
Dros y degawd diwethaf, mae nifer yr anheddau preifat wedi codi'n raddol ac mae nifer y rhai sydd ar osod wedi cynyddu, hefyd. Mae mwy a mwy o bobl yn ei chael yn anodd prynu cartref, fodd bynnag. Mae'r awdurdodau lleol yn cyflawni rôl bwysig ynghylch rhoi cartrefi ar gael yn y sectorau preifat a chymdeithasol yn ogystal â hwyluso trefniadau mwy hyblyg yn y farchnad fel y bydd sawl dewis amgen na phrynu neu rentu yn y pen draw.
Tai preifat sydd ar osod
Mae sector y tai preifat sydd ar osod yng Nghymru yn tyfu ac mae rôl bwysig iddo ynghylch cynnig cartrefi i'r rhai na allan nhw rentu tai cymdeithasol na phrynu tai. Mae'r awdurdodau lleol yn cydweithio â landlordiaid preifat i rhoi rhagor o dai preifat o safon ar osod trwy amryw fentrau megis:
- fforymau landlordiaid
- asiantaethau sy'n cynnig tai ar osod
- trwyddedu tai ac ynddyn nhw fwy nag un preswylydd
- defnyddio pwerau cyfreithiol i orfodi landlordiaid i wella safonau tai lle bo angen
Yn sgîl cyflwyno Cynllun Rhentu Doeth Cymru fis Tachwedd 2015, rhaid i landlordiaid ac asiantaethau anheddau preifat gofrestru, yn ogystal â rhoi manylion eu hanheddau bellach.
Adnewyddu tai
Mae'r awdurdodau lleol yn annog ac yn helpu perchnogion i wella eu cartrefi, hefyd. Un o brif elfennau’r cymorth hwnnw yw grantiau gwella cartrefi ond mae’r cynghorau’n helpu perchnogion mewn nifer o ffyrdd eraill megis asiantaethau gwella a chynlluniau rhyddhau ecwiti.
Grantiau cyfleusterau i'r anabl
Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw rhoi grantiau i bobl anabl i'w helpu nhw i dalu am addasu eu cartrefi fel y gallan nhw barhau i fyw'n annibynnol yno. Mae'r galw am y grantiau'n dal i gynyddu a chan y bydd rhagor o hen bobl dros y degawdau i ddod, mae'r disgwyl y bydd y galw'n cynyddu eto fyth. Mae cymdeithasau tai’n cael hawlio grant ar gyfer addasu eu tai.
Mae rhagor o wybodaeth gan awdurdodau unigol am y cymorth maen nhw'n ei roi i'r sector preifat yn eu hardaloedd.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Jim McKirdle