Mae’r Rhaglen Gwella Gwastraff yn cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru o dan adain Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Y tîm yw:
- Craig Mitchell, Pennaeth Cefnogi Gwastraff
- Jonathan Roberts, Swyddog Gwella - Gwastraff
- Emma Shakeshaft, Swyddog Economi Gylchol a Gwastraff
- Barry Williams, Swyddog Economi Gylchol a Gwastraff
- Eve Swindley, Swyddog Economi Gylchol a Gwastraff
Ers 2007 mae’r Rhaglen Gwella Gwastraff wedi bod yn gweithio gyda’r awdurdodau lleol i’w helpu i wella perfformiad ac effeithlonrwydd eu gwasanaethau gwastraff yn unol â phedwar amcan craidd: tystiolaeth, effeithlonrwydd, gwella perfformiad a chyflawni egwyddorion cynaliadwy ehangach.
Prif rôl y rhaglen yw:
- casglu, dilysu a dadansoddi data perfformiad allweddol, gan ymateb i anghenion Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol sy’n bartneriaid;
- cyhoeddi’r data mewn ffordd sy’n gofalu y bydd yn hawdd i’w ddefnyddio ac yn gwneud y gorau o’r data yma er mwyn gwella gwasanaethau;
- bod yn sylfaen ar gyfer cynlluniau a phenderfyniadau o ran gwasanaethau effeithiol ac effeithlon ledled y 22 awdurdod lleol drwy ledaenu’r data hwnnw yn gyson mewn achlysuron rhanbarthol, rhwydweithiau a phyrth ar y we;
- datblygu offer ac adnoddau fydd yn gwneud gwahaniaeth mewn gwasanaethau rheng flaen;
- caniatáu caffael ar y cyd gan gynnwys cydweithredu; a
- cefnogi gweithgareddau’r Rhaglen Newid Gydweithredol.
Dolenni:
Mae rhagor o wybodaeth gan: Barry Williams