Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Fe roes y Frenhines sêl ei bendith ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru ar 1af Mai 2014. Bydd ar waith o fis Ebrill 2016 ymlaen. Mae’r ddeddf yn rhoi fframwaith statudol er lles pobl mae angen gofal a chymorth arnyn nhw, a’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw, yn ogystal â hwyluso trefniadau trawsffurfio’r gwasanaethau cymdeithasol yn ôl Papur Gwyn Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu. Bydd y ddeddf yn trawsffurfio’r modd rydyn ni’n cynnig ein gwasanaethau cymdeithasol, a hynny trwy ddull sy’n ymwneud â’r chyflawni’r hyn a fydd yn hybu lles rhywun – yn unigolyn, yn rhan o’i deulu ac yn rhan o’i gymuned.

 

Mae’r ddeddf wedi’i seilio ar bedair prif thema, sy’n cydblethu:

 

  1. Pobl – rhoi rhywun a’i anghenion wrth wraidd y gofal ar ei gyfer a’i alluogi i ddweud ei ddweud am yr hyn fydd o les iddo a modd rheoli’r broses
  2. Llesiant – helpu pobl i fyw’n fodlon a mesur llwyddiant y cymorth i’r perwyl hwnnw
  3. Camu i mewn ynghynt – hybu’r defnydd o ddulliau ataliol yn y gymuned i ddiwallu anghenion pobl cyn y byddan nhw’n troi’n ddifrifol
  4. Cydweithio – galluogi sefydliadau perthnasol i gydweithio’n well er lles y bobl maen nhw’n eu cynorthwyo

 

Adnoddau


Mae rhagor o wybodaeth gan: Stewart Blythe

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30