Rhaid i Gymru gyfuno gofal iechyd a chymdeithasol yn llwyr, a rhaid i’r cynghorau lleol fod wrth wraidd y broses honno.
Mae gan ein cynghorau sawl ffordd o wella llesiant cymunedau. I’w defnyddio’n effeithiol, rhaid inni chwalu ffiniau a buddsoddi arian newydd yng ngwasanaethau ataliol y cynghorau lleol.
Dyma’r adeg i’w fuddsoddi am fod digon o bwysau ar wasanaethau gofal iechyd a chymdeithasol yn sgîl newid sydyn yn natur y boblogaeth, rhagor o alw am y gwasanaethau ond llai o arian ar eu cyfer.
Mae peth cynnydd. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru am inni gamu i mewn yn gynnar, buddsoddi yn y gwasanaethau ataliol a chyfuno gofal iechyd a chymdeithasol. Prif fyrdwn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol Cymru yw rhoi safon gwasanaethau wrth wraidd trefn y rheoleiddio a diogelu pobl sy’n agored i niwed yn gryfach.
Wrth gyhoeddi ‘Cymru Iachach’ mae Llywodraeth Cymru’n gosod ei gynllun cenedlaethol hirdymor (deng mlynedd) ym maes iechyd a gofal cymdeithasol sy’n seiliedig ar weledigaeth ar gyfer ‘system gyfan iechyd a gofal cymdeithasol’ gan ganolbwyntio ar iechyd a llesiant ar atal salwch.
Mae’r cynghorau lleol yn hanfodol i hynny. Does neb arall mewn sefyllfa well i gynnal gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd cyhoeddus.
Rydyn ni wedi dweud y dylai pob cyngor lleol gael llunio ei wasanaethau gofal yn ôl anghenion trigolion ei fro ac ehangu ffiniau eu cyfrifoldebau. Elfen greiddiol o hynny yw’r angen i ddod o hyd i ddull cynaliadwy, hirdymor o ariannu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Hoffen ni gronfa ofal cyfun fydd yn ychwanegu at adnoddau Cronfa’r Gofal Cyfamserol fel y gallwn ni gyfuno gwasanaethau’n gyflymach. Bydd y bobl yn elwa ar ffordd fwy cydlynol o gynnig gofal iechyd a chymdeithasol.
Rhaid inni fod yn fentrus. Boed ofal cymunedol neu ganolfannau hamdden, bydd gwasanaethau’r cynghorau lleol yn gwella llesiant ac yn lleddfu’r pwysau sydd ar feysydd eraill megis y GIG. Mae gwir angen buddsoddi ynddyn nhw.
Dolenni:
Mae rhagor o wybodaeth gan: Stewart Blythe