Awdurdodau Lleol a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gosod dyletswydd ar bob corff cyhoeddus i ddatblygu mewn modd cynaliadwy, gan gyfrannau at saith nod gyffredin Cymru fel cenedl. Yn gysylltiedig â hyn, mae’n gofyn i gyrff cyhoeddus unigol osod a chyhoeddi amcanion llesiant, cymryd camau rhesymol i gyflawni’r rhain a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar y cynnydd y maen nhw’n ei wneud. Mae disgwyl i’r datganiad o amcanion gael ei ymgorffori yng Nghynllun Corfforaethol awdurdodau lleol ac, yn yr un modd, disgwylir i’r adroddiad cynnydd blynyddol fod yn rhan o Adroddiad Blynyddol ehangach (ac nid yn ddogfen ar wahân).

 

Yn ystod y cyfnod o 12 mis yn dechrau gyda dyddiad etholiad cyffredinol, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi ‘adroddiad tueddiadau'r dyfodol’, sy’n cynnwys rhagfynegiadau o dueddiadau tebygol y dyfodol o ran llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, gan gynnwys unrhyw wybodaeth a data dadansoddol cysylltiedig y mae’r Gweinidogion yn eu hystyried yn berthnasol.

 

Rhaid i’r adroddiad hefyd roi ystyriaeth i unrhyw gamau gweithredu a gymerir gan y Cenhedloedd Unedig mewn perthynas â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r CU, ac asesu effaith bosibl y cam hwnnw ar lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Rhaid iddo hefyd ystyried yr adroddiad sy’n cynnwys asesiad o’r peryglon i'r Deyrnas Unedig o ganlyniad i effaith bresennol a rhagweledig newid yn yr hinsawdd, a anfonwyd yn fwyaf diweddar i Weinidogion Cymru dan adran 56(6) Deddf Newid yn yr Hinsawdd 2008. Bydd yr adroddiad yn eu helpu i bennu eu hamcanion llesiant.

 

Fel rhan o waith CLlLC gydag awdurdodau lleol, gwnaed amrediad eang o waith yn edrych ar y seiliau y mae angen eu sefydlu, diagnostig hunanasesu, sut i gynllunio ar gyfer y dyfodol, buddsoddi ar gyfer y dyfodol, sesiynau hyfforddi ar gyfer Aelodau etholedig, ystyried y goblygiadau ar gyfer pwyllgorau craffu a’r gofynion ar gyfer adrodd yn ôl.


 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30