Rheoli gwastraff ac adnoddau

Dim ond hyn a hyn o adnoddau sydd gyda ni ac, felly, rhaid inni ddechrau eu rheoli yn well gan gynnwys ‘gwastraff’. Yn ogystal â helpu i ddiogelu adnoddau prin, bydd hynny o fudd economaidd trwy’r economi gylchol, hefyd.  Felly, yn lle cynhyrchu, defnyddio a thaflu nwyddau, byddwn ni’n ceisio eu hailddefnyddio, eu hailgynhyrchu a’u hailgylchu gan helpu i gynnal swyddi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Un o brif elfennau’r syniad hwnnw yw arbed gwastraff a defnyddio’r trefniadau lleol sydd ar gael megis gwasanaethau casglu bwyd gwastraff ac ailgylchu. Gall hynny helpu i greu trydan hefyd, gan ddiwallu ein hanghenion o ran ynni a chynhyrchu deunyddiau crai newydd ar gyfer ein diwydiannau.

 

Yn ôl y gyfraith, mae’r awdurdodau lleol yn gyfrifol am gasglu gwastraff cartrefi a chael gwared arno. Y prif bolisi yn y maes hwn yw ‘Tuag at Gymru Ddiwastraff’ sy’n disgrifio’r trywydd at wlad heb wastraff erbyn 2050. Mae Llywodraeth Cymru wedi pennu targedau ailgylchu statudol, hefyd. Rhaid i bob awdurdod lleol eu cyflawni neu wynebu dirwyon llym.

 

Erbyn 2024/25, rhaid ailgylchu 70% o wastraff cartrefi a defnyddio’r gweddill i greu ynni mewn cyfleusterau effeithlon iawn. Mae’n hanfodol inni barhau i gwtogi ar y gwastraff gweddilliol trwy ddulliau megis cynnwys llai o ddeunydd pecynnu a llunio nwyddau y gallwn ni ddefnyddio pob rhan ohonynt eto. Dyna pam mae llawer o gynghorau lleol yn cyfyngu ar nifer y bagiau du mae pob cartref yn cael eu gadael allan i’w casglu. Mae ymchwil wedi dangos y gallen ni fod wedi ailgylchu o leiaf hanner y gwastraff roedd pobl wedi’i roi mewn bagiau du yn 2015.

 

Mae’r strategaeth wedi’i llunio yn ôl gofynion deddfau a pholisïau Undeb Ewrop, y Deyrnas Gyfunol a Chymru. Mae trefn y gwastraff wrth wraidd honno: arbed gwastraff yn y lle cyntaf, ailddefnyddio nwyddau wedyn (trwy siopau elusennau a Freecycle, er enghraifft) ac, yna, ailgylchu a chompostio deunyddiau. Dim ond tua’r trydydd cam y bydd dirwyon am fethu â chydymffurfio:

 

Mae cynghorau lleol Cymru wedi cyflawni llawer ynglŷn â chladdu llai wastraff ac ailgylchu rhagor. Maen nhw wedi cydweithio i brynu cyfleusterau trin olion bwyd a gwastraff gweddilliol. Mae WLGA yn cynnig cymorth i’r diben hwnnw gan gynnwys gwybodaeth feincnodi ac arferion da.

 

Mae WLGA yn helpu Llywodraeth Cymru i drin a thrafod gwastraff mewn sawl ffordd er lles cymunedau. Rhaid rheoli gwastraff pob bro trwy ddull ehangach yn ôl nodau ac egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, fodd bynnag. Mae angen cadw’r ddysgl yn wastad rhwng cyflawni targedau ailgylchu ac annog pobl i ystyried yr amgylchedd. Dylid helpu’r cynghorau lleol i gynnig gwasanaethau sy’n briodol i’w hamgylchiadau.


Dolenni:


Mae rhagor o wybodaeth gan: Craig Mitchell

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30