Ystyriaethau Carbon a Bioamrywiaeth mewn Achosion Busnes

Mae allyriadau carbon Cymru yn parhau i gynyddu – yn groes i'r llwybrau lleihau carbon ac ymrwymiadau sero net 2030 a wnaed gan Lywodraeth Cymru a chynghorau Cymru. Ar yr un pryd, mae'r bioamrywiaeth sy'n sail i'n cadwyn fwyd a'n system economaidd ehangach yn dirywio'n gyflym. Mae bywyd gwyllt Cymru wedi lleihau 20% ar gyfartaledd ers 1994 ac mae bron i 1 o bob 6 rhywogaeth Gymreig dan fygythiad difodiant (Partneriaeth State of Nature, 2023).

 

Drwy eu gweithgareddau neu eu penderfyniadau mae cynghorau yn cael effaith ar allyriadau a bioamrywiaeth. Mae'r Asesiadau Effaith Llesiant yn helpu cynghorau i werthuso effeithiau eu prosiectau, ond nid ydynt yn darparu gwerthusiad manwl, nac yn darparu'r offer angenrheidiol i arweinwyr prosiectau i sicrhau bod carbon a bioamrywiaeth yn cael eu hystyried fel rhan o ddatblygiad unrhyw brosiect.

 

Mae ein canllaw strategol, a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag Uchelgais Gogledd Cymru, yn dwyn ynghyd fframweithiau allweddol, rhesymeg gynllunio, methodolegau a gydnabyddir gan y diwydiant ac arfer gorau gyda'r nod o sicrhau bod carbon a bioamrywiaeth yn cael eu hystyried yn gyson a chyn gynted â phosibl yng nghylchred oes datblygu prosiectau. Mae'n ymwneud â newid meddylfryd, rheoli costau a risgiau trwy ddatblygu prosiectau ar gyfer gwell canlyniadau hinsawdd a natur, sicrhau bod cynghorau yn cyflawni eu dyletswyddau statudol, a chwalu'r myth bod prosiectau gyda gwell canlyniadau carbon a natur yn costio mwy!

 

Yn yr adran hon fe welwch ystod o ddogfennaeth ategol a fideos hyfforddi i ddeall yr egwyddorion y tu ôl i'r canllaw hwn yn well. Byddwch hefyd yn gallu lawrlwytho fersiwn Pdf rhyngweithiol o'r canllaw a sleidiau PowerPoint.


Ystyriaethau Carbon a Bioamrywiaeth mewn Achosion Busnes

Canllaw strategol ac offeryn ymarferol i unrhyw un sydd yn gyfrifol am ddylunio, cyflawni, cymeradwyo a chraffu ar brosiectau i sicrhau bod carbon a bioamrywiaeth yn cael eu hystyried fel rhan o ddatblygiad unrhyw brosiect.


Ystyriaethau Carbon a Bioamrywiaeth mewn Achosion Busnes - Sleidiau PowerPoint

Canllaw strategol ac offeryn ymarferol i unrhyw un sydd yn gyfrifol am ddylunio, cyflawni, cymeradwyo a chraffu ar brosiectau i sicrhau bod carbon a bioamrywiaeth yn cael eu hystyried fel rhan o ddatblygiad unrhyw brosiect.


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Jean-Francois Dulong

  Amdanon ni

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30