Mae Panel Strategaeth Hinsawdd Llywodraeth Leol wedi’i sefydlu i helpu i arwain, cefnogi a rhoi trosolwg strategol i waith Datgarboneiddio mewn llywodraeth leol. Gan gydweithio, bydd y Panel yn rhannu arbenigedd, tystiolaeth a datrysiadau i sicrhau bod buddsoddiad, strategaeth a pholisi mor effeithiol ag sy’n bosibl.
Cyfarfu’r Panel dros y we am y tro cyntaf yn ystod Wythnos yr Hinsawdd Cymru (2-6 Tachwedd 2020), ac maen parhau i cwrdd misol. Mae’r Panel yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu polisïau uchelgeisiol ar gyfer Cynllun Cyflawni Carbon Isel nesaf Cymru ar sail y meysydd blaenoriaeth i’r sector cyhoeddus – caffael, adeiladau, trafnidiaeth a defnydd tir. Mae disgwyl i’r Cynllun cael eu cyhoeddi yn ystod yr hydref 2021.
Gan gydnabod bod llawer o waith sy’n mynd rhagddo eisoes, nad bwriad y Panel oedd efelychu grwpiau a gweithgareddau sy’n bodoli eisoes, ond yn hytrach symbylu a chyflymu newid er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Yr angen i gydweithio ydy nod allweddol i’r Panel, fel bod modd i awdurdodau rannu arfer da a gwersi a ddysgwyd, yn ogystal â chydweithredu er mwyn lleihau galw ar adnoddau.
Mae llywodraeth leol mewn sefyllfa unigryw i arwain trwy esiampl a chynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o raddfa a chyflymder newid sydd ei angen i cyrraedd y targed uchelgeisiol at ddod yn sero net erbyn 2030.
Pwy yw aelodau’r Panel?
Mae’r Panel yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol ar draws Cymru sy’n cynrychioli eu rhanbarth, aelodau Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac ochr yr undebau llafur ynghyd ag arbenigwyr technegol.