Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol ac yn hybu democratiaeth leol yng Nghymru. Ei brif ddibenion yw hyrwyddo llywodraeth leol well, hyrwyddo ei enw da a chefnogi awdurdodau wrth ddatblygu polisïau a blaenoriaethau a fydd yn gwella gwasanaethau cyhoeddus a democratiaeth.
Mae CLlLC yn casglu ac yn defnyddio gwybodaeth bersonol am staff ac unigolion fel rhan o’r gwasanaethau mae’n ei ddarparu drwy ei gefnogaeth a threfniadau gwneud penderfyniadau trawsbleidiol.
Fel rheolydd data, mae gan CLlLC ddyletswydd i roi gwybod i unigolion am yr wybodaeth a gedwir ganddi. Dylai’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn grynhoi pam ei bod yn cael ei chadw ac unrhyw bartïon eraill y gellir ei throsglwyddo iddynt. Bydd CLlLC yn cynghori unigolion am hyn drwy Brosesu Teg mewn iaith gryno, glir, syml ac am ddim.
Pa fathau o ddata personol ydym ni’n ei brosesu?
Mae’r mathau o ddata personol rydym yn eu prosesu yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:
- Fanylion cyswllt, yn cynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost
- Manylion adnabyddadwy, gan gynnwys dyddiad geni, rhif yswiriant gwladol a rhifau gweithiwr ac aelodaeth
- Aelodaeth o bleidiau a grwpiau gwleidyddol
Sut fyddwn ni’n caffael eich data personol?
Rydym yn caffael eich data personol o ffynonellau gan gynnwys:
- gwefannau cyhoeddus
- data a ddarperir gennych chi mewn cais am ffurflen hyfforddiant
- rhwydweithiau proffesiynol rydych yn rhan ohonynt ac rydym ni’n eu cefnogi
- ceisiadau ar gyfer cyflogaeth
- negeseuon e-bost yr ydych eu hanfon i ni
Sut fyddwn ni’n defnyddio eich data personol?
Gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer un neu fwy o’r dibenion canlynol:
- i gysylltu â chi
- ar gyfer dibenion ystadegol ac atgyfeirio
- i gydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol
- i fynd i’r afael ag ymholiadau gennych chi ac i ymateb i unrhyw anghydfod posibl neu wirioneddol sy’n ymwneud â chi
- Cyflogaeth
Beth yw ein sylfaen gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data personol?
Mae CLlLC yn cadw data personol amdanoch chi yn ei gapasiti fel rheolydd data.
Bydd y sail gyfreithiol ar gyfer ein defnydd o’ch data personol yn un neu fwy o’r canlynol:
- rydym angen prosesu eich data personol i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol
- rydym angen prosesu eich data personol i gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth ymarfer ein hawdurdod swyddogol yn ein capasiti fel corff cyhoeddus; [a/neu]
- gan ein bod angen prosesu eich data personol i fodloni ein rhwymedigaethau dan gontract gyda chi
- mae prosesu yn angenrheidiol er mwyn diogelu buddiannau hanfodol y gwrthrych data neu fodau dynol eraill
Y sefydliadau gallwn rannu eich data personol gyda nhw
Gallwn rannu eich data personol gyda sefydliadau allanol rydym yn gweithio â nhw. Gallai’r rhain gynnwys:
- Llywodraeth Cymru i gynorthwyo gyda lledaenu gwybodaeth
- Data Cymru i gynorthwyo gyda nodau ymchwil / ystadegol yn ogystal â phrosesau mewnol megis talu treuliau
- Cyngor Caerdydd ar gyfer swyddogaethau cyflogau
- Cymdeithas Llywodraeth Leol pan fyddwn yn cynnal hyfforddiant ar eu rhan ar gyfer eu gwybodaeth ystadegol
- Awdurdodau Lleol eraill os mai nhw yw’r corff priodol i ddarparu cymorth
Eich hawliau Diogelu Data
O dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau gan gynnwys:
- Eich hawl i gael mynediad - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni am gopïau o’ch gwybodaeth bersonol
- Eich hawl i gywiro - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy’n anghywir. Hefyd mae gennych yr hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth yr ydych yn meddwl sy’n anghyflawn
- Eich hawl i ddileu - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol mewn amgylchiadau penodol
- Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Mae gennych yr hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol mewn amgylchiadau penodol
- Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol mewn amgylchiadau penodol
- Eich hawl i symud data - Mae gennych yr hawl i ofyn ein bod yn trosglwyddo’r wybodaeth bersonol a roddoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, mewn amgylchiadau penodol
Nid oes angen i chi dalu unrhyw ffi ar gyfer ymarfer eich hawliau. Os byddwch yn gwneud cais, mae gennym ni fis i ymateb i chi.
Cysylltwch â ni ar dataprotection@wlga.gov.uk os ydych yn dymuno gwneud cais.
Sut i wneud cwyn
Dylid cyfeirio cwynion mewn perthynas â phrosesu data personol at swyddog diogelu data CLlLC.
Gallwch hefyd wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym wedi defnyddio eich data. Cyfeiriad Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF
Rhif llinell gymorth: 0303 123 1113
Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Cyswllt
Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas â’r polisi hwn, cysylltwch â’r swyddog diogelu data. Cyfeiriad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Un Rhodfa'r Gamlas
Dumballs Road
Caerdydd
CF10 5BF
E-bost: Dataprotection@wlga.gov.uk
Cafodd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf Tachwedd 2023.