Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn declyn pwerus i gynghorwyr. Maent yn eu helpu i ymgysylltu â chymunedau, codi ymwybyddiaeth o faterion cymunedol, digwyddiadau neu fentrau’r cyngor, yn ogystal â cheisio barn a chael adborth. Fodd bynnag, mae elfen negyddol i’r cyfryngau cymdeithasol; nid yw gwleidyddion, yn enwedig menywod, erioed wedi wynebu cynifer o achosion o gam-drin a bwlio ar-lein, ac maent yn aml yn derbyn negeseuon annerbyniol, annymunol a bygythiol.
Mae CLlLC hefyd wedi datblygu canllawiau eraill ar gyfer cynghorwyr:
Canllawiau i Gynghorwyr ar sut i ymdrin â bygythiadau - Agor y ddolen yma
Diogelwch Personol ar gyfer Aelodau - Agor y ddolen yma
Mae'r Cymdeithas Llywodraeth Leol (CLlLC) wedi cynhyrchu y canllawiau isod ar gyfer aelodau i helpu nhw ateb y heriau ac i aros yn ddiolgel ar-lein:
Ffeithluniau
Mae CLlLC, CLlL, COSLA a NILGA wedi datblygu ffeithluniau ‘rheolau ymgysylltu’ y gall ymgeiswyr a chynghorwyr eu hychwanegu at eu proffil ar y cyfryngau cymdeithasol i amlinellu sut y maent yn bwriadu ymgysylltu gyda phobl ar-lein. Mae’r rheolau hyn wedi eu cynllunio i roi ‘cod’ clir i bob defnyddiwr o ran gweithredu, gyda datganiad clir y gall defnyddwyr gael eu hatal, neu y gall negeseuon gael eu dileu, os nad ydynt yn cyfranogi yn gwrtais.
Agor y ddolen yma
Mae ffeithlun ymdrin â chamdriniaeth ar-lein hefyd wedi ei ddatblygu i roi canllaw cyflym i gynghorwyr i’w helpu i ddeall y camau y gallant eu cymryd i ddiogelu eu hunain ar-lein, sut i ymateb i negeseuon sarhaus ac annog cynghorwyr i geisio cymorth pan fo angen.
Agor y ddolen yma
Ymdrin ag achosion o gam-drin ar-lein - Canllaw i Gynghorwyr (2020)
Mae’r canllaw hwn yn rhoi cyngor ynghylch sut i reoli achosion o gam-drin neu aflonyddwch ar-lein neu roi gwybod amdanynt. Mae hefyd yn sôn am adnoddau ar-lein fydd yn eich arwain drwy’r broses o atal, tawelu, cuddio neu roi gwybod am sylwadau ar-lein, yn ogystal â rhoi’r gorau i fod yn ‘ffrind’ i’r sawl a anfonodd y sylw.
Agor y ddolen yma
Gwella Dinasyddiaeth Ddigidol: Canllaw Ymarferol i Gynghorwyr (Awst 2021)
Mae’r cyfryngau cymdeithasol bellach yn ofod cyhoeddus pwysig, lle bydd cynghorwyr yn rhannu gwybodaeth wleidyddol ac ymgysylltu â chynghorwyr eraill, swyddogion cymorth a phreswylwyr. Ond mae hefyd yn agor y drysau i gamdriniaeth, aflonyddwch a bygythion, ynghyd â lledaenu camwybodaeth. Mae’r canllaw hwn yn rhoi cyngor ymarferol ac adnoddau i gynghorwyr wrth iddynt barhau i we-lywio’r gofod hwn.
Agor y ddolen yma
Gwella Dinasyddiaeth Ddigidol: Ymchwil ac Arfer Da (Awst 2021)
Mae aflonyddwch, bygythion a chamdriniaeth ar-lein, a lledaenu camwybodaeth a thwyllwybodaeth, bellach yn heriau sylweddol i ddemocratiaeth leol. Mae'r canllaw hwn yn amlinellu gwaith ymchwil a wnaed yn gysylltiedig â chynghorwyr a dinasyddiaeth ddigidol, ac yn trafod y gwaith da sy'n digwydd yn y DU ac mewn gwledydd tramor.
Agor y ddolen yma
Cyfryngau Cymdeithasol - Canllaw i Gynghorwyr (2018)
Canllaw yw hwn ar gyfer cynghorwyr a hoffai ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol fel arf i rannu gwybodaeth, agor trafodaethau newydd â phobl yn eu cymuned a’r tu hwnt, ac ennyn diddordeb eu hetholaeth mewn sgwrs ddwy ffordd gynhyrchiol.
Agor y ddolen yma
Mae rhagor o wybodaeth gan: Tîm Gwella CLlLC
Gwelliant@wlga.gov.uk