Rhaglen Arweinyddiaeth i Gynghorwyr yng Nghymru

Y Rhaglen Arweinyddiaeth i Gynghorwyr yng Nghymru yw rhaglen ddatblygu flaenllaw CLlLC ar gyfer cynghorwyr mewn swyddi arwain.

Trosolwg

Mae Rhaglen Arweinyddiaeth i Gynghorwyr yng Nghymru CLlLC yn fan lle gall arweinwyr, a’r rhai sydd mewn swyddi arwain, archwilio’r syniadau diweddaraf mewn arweinyddiaeth wleidyddol, a rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ymateb i’r heriau hyn.

 

Un o gryfderau’r rhaglen yw ei bod yn rhoi cyfle i gynghorwyr o bob plaid wleidyddol gwrdd â’u cyfatebion o gynghorau a phleidiau eraill a thrafod materion sy’n gyffredin iddyn nhw.

 

Mae’r cyfuniad hwnnw o ddysgu gan arbenigwyr ym maes arwain a thrwy profiad cyfoeswyr yn rhoi i’r cynghorwyr hyder yn eu galluoedd a rhwydwaith newydd o bobl y gallan nhw ymddiried ynddynt.

 

AMSERLEN

Mae'r rhaglenni'n drawsbleidiol ac wedi'u cyfyngu i 25 o gynghorwyr mewn unrhyw un sesiwn er mwyn sicrhau'r cyfranogiad mwyaf posibl.

 

Rhaglen 1 - Gogledd Cymru [Penwythnosau]

  • Modiwl 1: 26 a 27 Hydref 2024 (preswyl)
  • Modiwl 2: 16 a 18 Tachwedd 2024 (rhithwir, ar ddiwrnodau nad ydynt yn ddilynol)
  • Modiwl 3: 7 a 8 Rhagfyr 2024 (preswyl)

 

Rhaglen 2 - De Cymru [Penwythnosau]

  • Modiwl 1: 18 a 19 Ionawr 2025 (preswyl)
  • Modiwl 2: 22 a 24 Chwefror 2025 (rhithwir, ar ddiwrnodau nad ydynt yn ddilynol)
  • Modiwl 3: 22 a 23 Mawrth 2025 (preswyl)

 

Manteision i chi

Mae'r rhaglen yn darparu amgylchedd lle gall cynghorwyr o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol gwrdd â chynghorwyr profiadol o gynghorau a phleidiau eraill i drafod materion cyffredin. Mae’r cyfuniad o ddysgu gan arbenigwyr ym maes arweinyddiaeth ac o brofiad eu cyfoedion yn rhoi hyder i gyfranogwyr y rhaglen yn eu galluoedd a rhwydwaith newydd o gyd-weithwyr y gellir ymddiried ynddynt.

 

Mae’r rhaglen yn anffurfiol ac yn rhyngweithiol iawn, sy’n cynnig y cyfle i gael amgylchedd dysgu deniadol sy’n ysgogi’r meddwl. Mae pob rhaglen wedi’i chyfyngu i 25 o gynghorwyr gan sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan.

Yr hyn a ddywedodd cyfranogwyr blaenorol am y rhaglen:

“Dyma’r hyfforddiant gorau i aelodau rwyf wedi ei gael.”

“Byddwn yn argymell y cwrs hwn i bob aelod. Mae’n rhagorol.”

“Roedd y sesiwn gan arweinydd y cyngor yn amhrisiadwy, yn ymarferol ac yn ysbrydoledig!”

“Rhagorol, ysgogol ac ysbrydoledig.”

“Fe wnes i fwynhau rhwydweithio gyda’r holl arweinwyr ar y cwrs. Rwy’n edrych ymlaen at ehangu ar y perthnasau newydd hyn a ffurfiwyd.”

“Deuddydd ardderchog. Fe wnes i ddysgu llawer gan y cyflwynwyr a’r cynrychiolwyr eraill. Digon o fwyd i’r meddwl.”

“Dysgwyd llawer a helpodd yn aruthrol nid yn unig yn y cyngor ond mewn sefyllfaoedd bywyd cyffredinol eraill hefyd, hoffwn pe bawn wedi cael y cyfle hwn flynyddoedd yn ôl, rwyf hefyd yn hyrwyddo holl fanteision unrhyw addysg a hyfforddiant tebyg.”

Cynulleidfa darged

Mae’r rhaglen yma ar agor i uwch gynghorwyr yng Nghymru, gan gynnwys arweinwyr, arweinwyr grwpiau gwleidyddol, aelodau gweithredol, llefarwyr y gwrthbleidiau a chadeiryddion craffu. Mae llawer o gynghorau o’r farn ei fod yn gyfle i hyrwyddo cynllunio ar gyfer olyniaeth a datblygu aelodau arweiniol y dyfodol.

 

Mae rhaglenni’n drawsbleidiol ac wedi’u cyfyngu i 25 aelod mewn unrhyw un sesiwn i sicrhau’r cyfranogiad mwyaf posibl.

 

Rydym yn cynnig dau le gwarantedig i bob cyngor ar draws y ddwy raglen. Yn dibynnu ar lefel y galw, efallai y byddwn yn gallu cynnig lleoedd ychwanegol; fodd bynnag, ni all mwy na phedwar aelod o bob cyngor gymryd rhan.

 

Sut mae’n gweithio

Mae’r Rhaglen Arweinyddiaeth i Gynghorwyr yng Nghymru yn rhaglen ddatblygu fodiwlaidd sy’n cynnwys tri modiwl deuddydd dros gyfnod o dri mis.

 

Mae Modiwl 1 (preswyl) yn canolbwyntio ar arwain drwy berthnasoedd. Mae’r modiwl hwn yn galluogi cyfranogwyr i nodi eu harddulliau, eu cryfderau a’u gwendidau arwain personol ac yn archwilio sut y gall cynghorwyr ddatblygu, cynnal a defnyddio perthnasoedd (mewnol ac allanol) i ddarparu arweinyddiaeth effeithiol ar lefel wleidyddol, sefydliadol a chymunedol ehangach.

 

Mae Modiwl 2 (rhithwir, ar ddiwrnodau nad ydynt yn ddilynol) yn edrych ar arwain arloesedd a newid. Bydd y modiwl hwn yn datblygu gallu cynghorwyr i arwain a rheoli newidiadau cymhleth i wella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd ac i sicrhau gwell canlyniadau i’w dinasyddion a’u cymunedau.

 

Mae Modiwl 3 (preswyl) yn archwilio arwain cymunedau a lleoedd. Canolbwyntir ar helpu cynghorwyr i gyfathrebu â’u cymunedau ac o fewn partneriaethau a rhoi arweiniad iddynt er mwyn sicrhau twf a ffyniant.

Rhwng modiwlau, bydd cynghorwyr yn cael eu hannog i barhau i sgwrsio, rhannu arfer datblygu a pharatoi ar gyfer y modiwl nesaf. Yn dilyn y rhaglen, bydd cyfranogwyr yn cael cyfleoedd i barhau â thrafodaethau yn y setiau dysgu gweithredol a gafodd eu sefydlu ar y rhaglen.

 

Cost

Darperir y Rhaglen Arweinyddiaeth i Gynghorwyr yng Nghymru am ddim i gynghorau ac fe’i hariennir gan Raglen Wella CLlLC, rhaglen a ariennir gan grant Llywodraeth Cymru. Bydd Academi Wales yn darparu llety i gynghorwyr ar y noson rhwng deuddydd modiwlau 1 a 3. Bydd hyn yn cynnwys ystafell sengl gyda chinio, gwely a brecwast ac ni fydd yn cynnwys cost unrhyw alcohol.

 

Bydd angen i gynghorau ariannu costau teithio ac unrhyw lety ac arlwyo ychwanegol sydd eu hangen cyn neu ar ôl modiwlau 1 a 3. Rhaid i gynghorwyr sy’n dymuno gwneud y trefniadau ychwanegol hyn wneud hynny drwy eu Swyddog Gwasanaethau Democrataidd, a fydd yn cysylltu â’r lleoliad yn uniongyrchol. Rhaid adennill unrhyw gostau cysylltiedig drwy broses deithio a chynhaliaeth arferol eich cyngor.

 

Sut i wneud cais

Mae’n bwysig eich bod yn darllen y cwestiynau cyffredin ar dudalen we’r Rhaglen Arweinyddiaeth i Gynghorwyr yng Nghymru cyn i chi archebu eich lle.

 

Enwebiad

Bydd gan eich cyngor weithdrefn ar gyfer blaenoriaethu ac enwebu cynghorwyr i fynychu’r rhaglen. Rydym yn cynnig dau le gwarantedig i bob cyngor ar draws y ddwy raglen. Yn dibynnu ar lefel y galw, efallai y byddwn yn gallu cynnig lle wrth gefn (cyntaf ac ail). Fodd bynnag, ni all mwy na phedwar cynghorydd o’ch cyngor gymryd rhan.

 

  1. Trafodwch eich enwebiad gyda’ch Swyddog Gwasanaethau Democrataidd.
  2. Pan fydd y Cyngor wedi penderfynu pwy fydd yn mynychu, dylai Penaethiaid
    Gwasanaethau Democrataidd anfon e-bost at Gwelliant@wlga.gov.uk
    gan roi enwau’r 2 gynghorydd enwebedig, ac enwau’r cyntaf a’r ail wrth gefn:
    1. enw
    2. cyfeiriad e-bost
    3. swydd / rôl o fewn y cyngor
    4. rhaglen a ffefrir (Gogledd / De / Y Naill neu’r Llall). Er y byddwn yn gwneud ein gorau i sicrhau’r lleoliad a ffefrir, ni allwn ei warantu. 
    5. math o enwebiad (lle gwarantedig / wrth gefn cyntaf / ail wrth gefn)
  3. Bydd Penaethiaid Gwasanaethau Democrataidd yn derbyn cadarnhad o bwy sydd wedi cael cynnig lle. Yna, rhaid iddyn nhw roi gwybod i’r cynghorwyr perthnasol. 
  4. Gall cynghorwyr sydd â lle wedi’i gadarnhau archebu eu hunain ar y rhaglen drwy wefan CLlLC.

 

Archebu

Unwaith y byddwch wedi derbyn cadarnhad o'ch lle ar y rhaglen, llenwch y ffurflen gofrestru isod i lenwi eich archeb.

Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Fel Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mae gennym ni ddiben ac ysgogwyr rhaniadwy i gyflawni ansawdd bywyd gwell a pharhaol i bob un ohonom. Darganfyddwch fwy yma.


Mae rhagor o wybodaeth gan:

Gwelliant@wlga.gov.uk

 

 

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : ymholiadau@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30