Adroddiad ar y prinder yn y farchnad lafur a'r prinder sgiliau sy'n effeithio ar Gymru
Cafodd y ddogfen hon ei baratoi gan Grant Thornton i ddeall y bylchau posibl yn y farchnad lafur a'r problemau o ran sgiliau sy'n deillio o gyfuniad o ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd a Covid-19. Ebrill 2022
Y diweddaraf am drefniadau pontio'r UE
To provide an update on the latest position regarding the ending of the EU transition period and report on the materials produced by WLGA to assist local authorities in their preparations. Tachwedd 2020
Effaith trefniadau pontio'r UE ar fasnach yng Nghymru
Mae’r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar effaith allforio nwyddau a goblygiadau posib ar gyfer busnesau pan fydd y DU yn gadael y Farchnad Sengl a’r Undeb Tollau ar 31 Rhagfyr 2020. Tachwedd 2020
Y newyddion diweddaraf ar Brexit / Atodiad
Mae'r adroddiad hwn yn darparu'r datblygiadau diweddaraf ar y gwaith sydd wedi cael eu gwneud gan awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer yr amrywiaeth o canlyniadau posib Brexit, gan gynnwys Brexit heb gytundeb. Medi 2019
Y newyddion diweddaraf ar Brexit
Mae’r adroddiad hwn yn darparu trosolwg o’r datblygiadau diweddaraf yn ymwneud â Brexit yn ogystal â’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch yr heriau sy’n wynebu awdurdodau lleol a’r camau paratoadol a gaiff eu cymryd. Gorffennaf 2019
Adroddiad canlyniad yn dilyn ymweliad dirprwyaeth CLlLC i Gernyw
Trefnwyd yr ymweliad gyda Chyngor Cernyw i gyfnewid safbwyntiau a gwybodaeth ar barodrwydd Llywodraeth Leol ar gyfer Brexit; cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer Pysgodfeydd, Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig; cysylltiadau gydag Ewrop ar ôl Brexit; a’r safbwyntiau presennol ar gynigion sy’n dod i’r amlwg ar gyfer cyllid datblygu rhanbarthol a pholisi (gan ddisodli arian yr UE). Ionawr / Chwefror 2019
Y newyddion diweddaraf ar Brexit
Mae’r adroddiad hwn yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch datblygiadau cyffredinol Brexit, cynnig sydd wedi’i gyflwyno gan CLlLC ar ran pob Awdurdod Lleol i Gronfa Bontio’r UE Llywodraeth Cymru a Phanel Ymgynghorol Paratoadau Brexit a sefydlwyd rhwng Llywodraeth Cymru, CLlLC ac awdurdodau lleol. Chwefror 2019
Diweddariad ar Brexit ac adborth o’r drafodaeth yn y Cyngor Partneriaeth
Y diweddaraf yn y gyfres o adroddiadau i Fwrdd Gweithredu WLGA a Chyngor. Ionawr 2019
Camau gweithredu yn dilyn ymweliad dirprwyaeth CLlLC â Brwsel
Darparu Aelodau ag adborth o ymweliad dirprwyaeth CLlLC â Brwsel, ac amlygu’r prif negeseuon a chamau gweithredu yn deillio o’r trafodaethau a gynhaliwyd. Hydref 2018
Adroddiad Deilliant ymweliad dirprwyaeth NILGA â Chymru
Ymwelodd dirprwyaeth NILGA o aelodau etholedig a swyddogion o ddeg o gynghorau Gogledd Iwerddon â Cymru ar wahoddiad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, er mwyn archwilio a dysgu o’r broses yn ymwneud â Bargeinion Dinesig a Bargeinion Twf a allai fod yn berthnasol i gynghorau yng Ngogledd Iwerddon. Archwiliodd y grŵp hefyd gyfleoedd o ran cyllid ôl-Frexit (yn cynnwys opsiynau yn lle Cyllid yr UE), gwaith tuag at gydlyniad rhanbarthol datblygu economaidd yng Nghymru, a rôl cynghorau mewn llunio lle. Tachwedd 2018