Sut i ddefnyddio'r adnoddau hyn
Ar gyfer pob maes polisi, rydym wedi datblygu cynllun gweithredu, astudiaethau achos a ffeithluniau.
Mae'r cynllun gweithredu a'r astudiaethau achos wedi'u cynllunio i gefnogi'r swyddogion sy'n gyfrifol am sefydlu neu reoli datblygiad ymagwedd y cyngor i'r maes hwnnw.
Mae cynlluniau gweithredu yn cynnwys manylion am amserlenni gweithredu, rhanddeiliaid allweddol i'w cynnwys, cyd-ddibyniaethau polisi, amcangyfrifon cyllideb, ac effaith ar allyriadau carbon o weithredu cynllun neu bolisi.
Mae'r astudiaethau achos yn darparu enghreifftiau o gynghorau eraill ar draws y DU sydd wedi gweithredu'n llwyddiannus, ynghyd â'r amcangyfrifon o fudd carbon pan oedd y wybodaeth hon ar gael.
Mae'r ffeithluniau wedi'u cynllunio fel deunydd cefnogol i helpu'r holl staff i ddeall mwy am y 'beth a'r pam' o brosiect, ynghyd â manylion ar sut y gallant gymryd rhan. Gellir golygu'r ffeithluniau gan ddefnyddio meddalwedd priodol i gynnwys manylion penodol am gynlluniau lleol neu gyfarwyddiadau i dudalennau mewnrwyd i staff ddysgu mwy. Mae'r ffont am ddim Poppins (ar gael o Google Fonts) wedi'i ddefnyddio ar gyfer y ffeithluniau.
Adnoddau