Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid
Mae’r Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid yn gyfres o wasanaethau gyda’i sail statudol yn Adran 123 Deddf Dysgu a Sgiliau 2000, sy’n nodi’r canlynol:
Gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyfarwyddo awdurdod lleol: (a) i ddarparu gwasanaethau cymorth ieuenctid; (b) i sicrhau darpariaeth gwasanaethau cymorth ieuenctid; (c) i gymryd rhan yn narpariaeth gwasanaethau cymorth ieuenctid.
- Yn yr adarn hon, golyga gwasanaethau cymorth ieuenctid yn golygu y gwasanaethau fydd, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, yn annog, galluogi neu helpu pobl ifanc (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol): (a) i gymryd rhan effeithiol mewn addysg neu hyfforddiant, (b) i fanteisio ar gyfleoedd am waith, neu (c) i gymryd rhan effeithiol a chyfrifol ym mywyd eu cymunedau.
- Yn yr adran hon, golyga pobl ifanc yn golygu bobl sydd wedi cyrraedd 11 oed ond heb gyrraedd 26 oed.
Gwasanaeth Ieuenctid
Ystyr Gwasanaeth Ieuenctid Cymru yw'r fframwaith ar gyfer cyflawni gwaith ymhlith yr ifainc trwy naill ai'r awdurdodau lleol, y mudiadau gwirfoddol sy'n ymwneud â'r ifainc neu brosiectau annibynnol lleol.
Hanfod gwaith ieuenctid yw addysgu a datblygu pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed o safbwynt cymdeithasol a phersonol fel ei gilydd. Mae gwaith o'r fath yn mynd rhagddo trwy amryw gyfryngau megis: clybiau ieuenctid; canolfannau preswyl; canolfannau hysbysu, cynghori a chwnsela; ar y strydoedd; amryw fannau cyhoeddus lle bydd pobl ifanc yn cwrdd; prosiectau am faterion penodol.
Mae gwaith ieuenctid yn alwedigaeth ac iddi ei fframwaith cymwysterau a'i safonau ei hun. Mae'r awdurdodau lleol yn ymwneud â'r maes ers y 1930au ac mae rôl bwysig iddyn nhw o ran cynnig gwasanaethau cymorth i'r ifainc. Ers mis Ebrill 2017, mae Gweithwyr Ieuenctid a Gweithwyr Cymorth Ieuenctid proffesiynol sy’n gweithio i awdurdodau lleol, sefydliadau’r sector gwirfoddol, ysgolion neu Sefydliadau Addysg Bellach, wedi gorfod cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC).
Strategaeth Gwaith Ieuenctid Genedlaethol Cymru
Cyhoeddwyd Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol Cymru 2019 gan Lywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2019, ac mae’n gosod gweledigaeth ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, fydd yn cael ei dilyn gan Gynllun Gweithredu. Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghymru’n cyfeirio at y fframwaith a ddefnyddir i ddarparu gwaith ieuenctid, a gwneir hyn yn bennaf drwy’r awdurdod lleol a sefydliadau ieuenctid gwirfoddol lleol a chenedlaethol, gyda’r ddau sector yn aml yn cydweithio’n agos.
Yn ogystal â bod o les ynglyn â chynnig lleoedd diogel i ymlacio a chael hwyl ynddyn nhw, mae gwasanaethau sydd ar gael i bawb yn cynnig lloches lle gall pobl allai fod yn agored i niwed gael gafael ar ragor o gymorth. Mae’r medrau personol a chymdeithasol sy’n deillio o raglenni ieuenctid yn hanfodol i bobl ifanc o bob gallu ynglyn â gweithio yn y dyfodol a chymryd rhan yn y gymuned.
Mae’r strategaeth yn cyfeirio at weledigaeth ar gyfer gwaith ieuenctid sy’n sicrhau bod pobl ifanc yn ffynnu; bod gwaith ieuenctid ar gael i bawb ac yn cynnwys pawb; bod staff gwaith ieuenctid gwirfoddol ac a gyflogir yn broffesiynol yn cael eu cefnogi drwy eu gyrfaoedd i wella eu hymarfer, a bod cyflawni gwaith ieuenctid yng Nghymru wedi’i seilio ar fodel cynaliadwy. Mae’n nodi’r canlynol:
Bydd y Cynllun Gweithredu ategol yn egluro perchenogaeth y camau gweithredu a’r cerrig milltir cyflawni. Bydd hefyd yn ddogfen fyw sy’n adlewyrchu cynnydd ac yn diweddaru dulliau wrth i dystiolaeth newydd ddod i’r amlwg.
Ymgysylltu a Datblygiad Ieuenctid
Mae Fframwaith Gweithredu Ymgysylltu a Chynnydd Ieuenctid yn ganllawiau anstatudol, sydd wedi'i seilio ar chwe phrif elfen:
- Adnabod pobl ifanc mae perygl y byddan nhw’n cefnu ar y gymdeithas
- Trefnu a chydlynu cymorth yn well
- Olrhain a phontio cryfach trwy’r gyfundrefn er lles pobl ifanc
- Gofalu bod yr hyn sydd ar gael yn diwallu anghenion pobl ifanc
- Cryfhau medrau a chyfleoedd i’w cyflogi
- Rhagor o atebolrwydd er lles pobl ifanc
Prif fyrdwn y fframwaith yw y bydd awdurdodau lleol yn cydweithio â’u partneriaid i gwtogi ar nifer y bobl ifanc sydd heb astudio, weithio na chael eu hyfforddi. Bydd swyddog arweiniol ar gael i’w helpu nhw trwy’r broses.
Dolenni:
Mae rhagor o wybodaeth gan: Tim Opie