CLILC

 

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae’r ddeddf ar waith ers 29ain Ebrill 2015 ac mae’i gofynion yn berthnasol i gyrff cyhoeddus Cymru ers 1af Ebrill 2016. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau am y ddeddf yn ogystal â llunio diagramau i esbonio’r effaith a ddaw. Mae un diagram yn amlinellu trefn y ddeddf ac mae un arall yn cyflwyno’r saith nod a’r pum ffordd o weithio, sef:

 

  • defnyddio dull cyfun gan ystyried sut mae cyfrannu at y nodau i gyd
  • cydweithio â chyrff eraill i ddatrys problemau ar y cyd
  • cadw’r pen draw ac anghenion cenedlaethau’r dyfodol mewn cof
  • cynnwys trigolion y fro mewn ffyrdd sy’n adlewyrchu natur amryfal y boblogaeth
  • deall achosion problemau a cheisio eu hosgoi lle bo modd

 

Mae’r ddeddf hon wedi sefydlu Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, hefyd. Mae ganddo hawl i adolygu’r modd mae cyrff cyhoeddus yn diogelu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion. Sophie Howe sydd yn y swydd ar hyn o bryd.

 

Mae manylion y ddeddf ar wefan Llywodraeth Cymru.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Neville Rookes

https://wlga.cymru/well-being-of-future-generations-act