CLILC

 

Canllawiau i Gynghorwyr ar sut i ymdrin â bygythiadau

Mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi lansio canllaw ar-lein i gynghorwyr a chynghorau ar sut i ymdrin â bygythiadau.

 

Mae’r canllaw yn rhoi cyngor i gynghorau a chynghorwyr ar:

  • y ddeddfwriaeth sy’n gysylltiedig â bygythiadau
  • ymateb i gamdriniaeth a bygythiadau pan fo hynny'n digwydd
  • polisïau a gweithdrefnau’r cyngor
  • gweithio gyda’r cyfryngau cymdeithasol
  • ymateb i fygythiadau ar y cyfryngau cymdeithasol
  • diogelwch personol
  • ffynonellau eraill o wybodaeth ddefnyddiol a chanllawiau

 

Mae sefyll a gwasanaethu fel cynghorydd yn rhoi boddhad mawr. Ond mae nifer gynyddol o gynghorwyr ac ymgeiswyr yn destun camdriniaeth a bygythiadau sy'n tanseilio egwyddorion rhyddid barn, ymgysylltu democrataidd a thrafodaeth.

 

Gallwch archwilio’r canllawiau, sy’n darparu camau ymarferol y gallwch chi a’ch cyngor eu cymryd i amddiffyn eich hun fel unigolyn mewn safle cyhoeddus, ar wefan y Gymdeithas Llywodraeth Leol:

 

Canllawiau i Gynghorwyr ar sut i ymdrin â bygythiadau

 

Byddwn yn parhau i ddiweddaru’r canllawiau gyda’r cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael.

 

Gallwch ddilyn egwyddorion SHIELD:

  1. DIOGELU (Safeguard) - pan fo’n bosibl diogelu eich hun ar-lein ac fel unigolyn. Er enghraifft, drwy ei gwneud yn eglur mewn unrhyw fywgraffiad neu dudalen ar-lein y rhoddir gwybod am unrhyw ymddygiad bygythiol, gan ddefnyddio nodweddion diogelwch, cymryd rhagofalon diogelwch personol a chael pwynt cyswllt yn yr heddlu lleol am unrhyw ddigwyddiadau
  2. HELP - sicrhewch eich bod yn ddiogel cyn i chi gymryd unrhyw gamau pellach ac ewch i gael cymorth os oes angen. Os nad yw’r bygythiad yn un uniongyrchol, gallwch gysylltu â swyddogion yn y cyngor neu rywun yn eich grŵp gwleidyddol sydd wedi cael y cyfrifoldeb o’ch cefnogi chi
  3. HYSBYSWCH (Inform) - dywedwch wrth yr unigolyn neu’r grŵp eich bod yn ystyried fod yr hyn maent yn ei ddweud neu eu gweithred yn fygythiol neu’n gamdriniol. Mae yna symudiad cynyddol o ‘ddinasyddiaeth ddigidol’ sy'n annog labelu ymddygiad gwael ar-lein fel ffordd o herio ymddygiad annerbyniol
  4. TYSTIOLAETH (Evidence) - os ydych yn ystyried fod yr hyn a ddywedir neu weithred yn fygythiol neu’n gamdriniol - casglwch dystiolaeth. Er enghraifft lluniau, recordiadau, sgrin luniau, llythyrau, negeseuon e-bost neu fanylion tystion
  5. GADEWCH I BOBL WYBOD (Let people know) - rhowch wybod i'r person perthnasol am y digwyddiad, gan ddibynnu ar natur a difrifoldeb y digwyddiad(au). Byddwch yn barod i’r heddlu a’r llysoedd benderfynu a yw’r digwyddiad yn fygythiad, a hynny wedi ei seilio ar farn ddamcaniaethol yr unigolyn cyffredin
  6. PENDERFYNU (Decide) - penderfynwch p’run ai ydych chi eisiau parhau i dderbyn gohebiaeth gan yr unigolyn neu’r grŵp a blocio neu dawelu os ydych ar y cyfryngau cymdeithasol lle mae’n briodol. Penderfynwch os ydych am gymryd unrhyw gamau i atal gallu'r unigolyn neu'r grŵp i gysylltu â chi

Mae rhagor o wybodaeth gan: Tîm Gwella CLlLC

Gwelliant@wlga.gov.uk 

https://wlga.cymru/councillors-guide-to-handling-intimidation