Wrth i fygythiadau seiber dyfu'n fwy cymhleth a pharhaus, mae cynghorau ledled Cymru yn cymryd camau rhagweithiol i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus hanfodol rhag tarfu.
Mae digwyddiadau seiber sy'n effeithio ar sefydliadau sector cyhoeddus y DU wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gydag awdurdodau lleol wedi'u nodi fel targedau gwerth uchel oherwydd y faint o ddata personol sydd ganddynt a'r gwasanaethau hanfodol y maent yn eu darparu. Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol wedi adrodd cynnydd cyson mewn bygythiadau seiber sy'n targedu'r sector cyhoeddus, gan gynnwys gwe-rwydo, ransomware, ac ymosodiadau cadwyn gyflenwi.
Gyda risg seiber yn parhau i fod ar ei uchaf erioed, mae'r Fframwaith Asesu Seiber (CAF) yn helpu awdurdodau lleol a gwasanaethau tân ac achub i fesur a chryfhau eu gwytnwch. Mae'r fframwaith yn caniatáu i bob sefydliad nodi gwendidau, blaenoriaethu gwelliannau, a rhannu dysgu trwy ddull cydweithredol, 'Unwaith i Gymru'.
Mae CLlLC, gan weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn cefnogi cyflwyno'r CAF ac ystod o fentrau eraill i godi ymwybyddiaeth, cynyddu parodrwydd, a sicrhau bod gwasanaethau lleol yn cael eu diogelu'n well. Mae'r rhain yn cynnwys gweithdai seiberdorri, ymarferion pen bwrdd, fideos ar gyfer hyfforddiant staff a CymruSOC – canolfan gweithrediadau diogelwch ganolog sy'n darparu monitro seiber a chefnogaeth barhaus i gynghorau.
Dywedodd y Cynghorydd Dimitri Batrouni, llefarydd CLlLC ar gyfer Digidol a'r Gweithlu:
"Nid yw gwytnwch seiber yn foethusrwydd - mae'n angenrheidiol. Wrth i fygythiadau barhau i esblygu, mae angen yr offer a'r hyder ar gynghorau i ddiogelu'r systemau sy'n sail i'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt.
"Mae'r Fframwaith Asesu Seiber yn rhan hanfodol o'r ymdrech hon. Mae'n helpu cynghorau i ddeall eu cryfderau a'u bylchau ac yn darparu strwythur ar gyfer gwella. Yn y pen draw, mae pob cyngor yn y sefyllfa orau i benderfynu pa gamau i'w cymryd – ond nid oes neb yn wynebu'r her hon ar ei ben ei hun. Mae cyngor, cefnogaeth a chydweithredu wrth wraidd yr hyn rydyn ni'n ei wneud."