CLILC

 

Sut rydyn ni’n gweithio

Mae WLGA yn gymdeithas drawsbleidiol ac mae cydbwysedd gwleidyddol i’w threfniadau penderfynu, gan adlewyrchu holl agweddau gwleidyddol yr awdurdodau sy’n perthyn iddi.

 

Aelodau WLGA sy’n ei harwain – a hynny trwy ei phrif gyrff penderfynu, sef Cyngor WLGA ac ynddo 79 o gynghorwyr sy’n cynrychioli pob bro yn ôl ei phoblogaeth, a Bwrdd Gweithredu WLGA ac ynddo arweinyddion y 22 awdurdod lleol. Trwy’r weithdrefn honno, mae cyswllt uniongyrchol â threfniadau llywodraethu WLGA a phob etholwr yng Nghymru. Bydd etholwyr yn pleidleisio dros ymgeiswyr yn etholiadau’r cynghorau lleol. Bydd y cynghorwyr yn eu tro yn ffurfio trefnau llywodraethu ac yn ethol arweinyddion. Etholir yr arweinyddion a’r cynghorwyr hynny wedyn yn aelodau o Gyngor a Bwrdd Gweithredu WLGA.

 

Mae’r cynghorwyr wrth wraidd trefniadau llunio polisïau a phenderfyniadau WLGA. Aelodau a chyrff penderfynu WLGA – y Bwrdd Gweithredu a’r Cyngor – sy’n hwyluso ei gwaith. Mae Is-bwyllgor Rheoli a Phwyllgor Archwilio gan WLGA, hefyd.

 

Er mai Plaid Llafur yw cylch gwleidyddol mwyaf WLGA ac mae’r Arweinydd a’i ddirprwyon wedi’u hethol o blith aelodau’r cylch hwnnw, mae WLGA yn gweithredu trwy gydsyniad ar draws yr amryw gylchoedd gwleidyddol eraill – y Cynghorwyr Annibynnol, y Blaid Geidwadol a Phlaid Cymru. Mae’r Arweinydd a rhai aelodau eraill o Gyngor WLGA yn gweithredu’n llefarwyr dros bob gwasanaeth ym maes llywodraeth leol megis materion ariannol, addysg, gofal cymdeithasol, llyfrgelloedd a hamdden.

 

Yn ôl Cynllun y Partneriaethau Statudol, sydd wedi deillio o Ddeddf Llywodraeth Cymru, WLGA yw’r unig gorff sy’n cael cynrychioli maes llywodraeth leol mewn trafodaethau. Felly, bydd ei llefarwyr yn cynrychioli pawb ym myd llywodraeth leol wrth drafod telerau gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth San Steffan ac unrhyw bartneriaid cenedlaethol eraill yn y maes dan sylw. At hynny, mae tîm bychan o swyddogion a chymdeithasau proffesiynol yn cynnig arbenigedd a chymorth ar gyfer lobïo, materion gwella a gwaith llunio polisïau.

 

Mae WLGA yn hyrwyddo rôl bwysig y cynghorau lleol ymhlith aelodau’r Cynulliad gan geisio diogelu enw da’r cynghorau a hwyluso newidiadau buddiol yn y gyfraith.

 

Mae llawer o waith WLGA yn ymwneud â’r Cynulliad a phartneriaid perthnasol eraill yng Nghymru. At hynny, mae WLGA ymwneud â Swyddfa Cymru ac yn cydweithio’n agos â Chymdeithas Llywodraeth Leol Lloegr yn Llundain ynglŷn â cheisio dylanwadu ar bolisïau a deddfau sydd heb eu datganoli – yn arbennig proses yr ymadael ag Undeb Ewrop. Hanfod gwaith WLGA yw ymgysylltu â gweinidogion, aelodau’r Cynulliad ac adrannau gwladol eraill. Felly, rydyn ni’n cyflawni cryn dipyn o lobïo.

 

Dyma brif agweddau ein gwaith:

  • cyfarfodydd llefarwyr WLGA â gweinidogion Llywodraeth Cymru;
  • craffu cyn deddfu ac wedyn ar y cyd â’r Cynulliad, Senedd San Steffan a Senedd Ewrop;
  • llunio polisïau ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan;
  • ymgysylltu â’r undebau llafur a chymdeithasau proffesiynol;
  • cydweithio ag amryw arolygiaethau Cymru;
  • cynnig cymorth ar gyfer gwella megis adolygu trwy gymheiriaid, gweithgareddau datblygu a hyfforddi cynghorwyr a ffyrdd o ledaenu arferion da;
  • trefnu cynadleddau, seminarau, gweithdai a hyfforddiant;
  • cyhoeddi adroddiadau, llawlyfrau ac adnoddau ar y we;
  • cyfathrebu, gwaith gyda’r wasg a chyfryngau cymdeithasol.

 

Mae WLGA wedi ymrwymo i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywioldeb a’r Gymraeg. At hynny, mae wedi ymrwymo i hwyluso llwyddiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.


 

https://wlga.cymru/how-we-work