Mae CLlLC heddiw wedi croesawu cyhoeddi adroddiad gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad i’w hymchwiliad estynedig i ariannu ysgolion.
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd). Arweinydd CLlLC a Llefarydd dros Addysg:
“Mae’r adroddiad yma yn amserol tu hwnt ac yn gyfraniad pwysig i’r drafodaeth i gyllido addysg. Bydd angen amser ar CLlLC i ystyried yr adroddiad a’i ganfyddiadau yn llawn, a bydd angen trafodaeth estynedig gydag aelodau cyn dod i unrhyw gasgliadau cadarn.
“Gallwn ni groesawu llawer o gynnwys yr adroddiad ac mae unrhywbeth sy’n cynyddu eglurder a thryloywder ar fater sydd mor bwysig a chyllido addysg yn gam i’r cyfeiriad cywir. Croesawir yn arbennig felly y gydnabyddiaeth bod angen rhagor o arian ar y system addysg yng Nghymru a’r angen i sefydlu dealltwriaeth eang o’r gost sylfaenol o addysgu plentyn yng Nghymru.”
“Mae CLlLC wedi dadlau yn gyson y dylai ein ysgolion gael eu cyllido trwy lywodraeth leol a’r cyllid craidd. Er bod gan grantiau penodol rolau i’w chwarae, mae llywodraeth leol yn glir y dylai eu bod nhw’n cael eu uno fel rhan o’r cyllid craidd pryd a phan bo’n briodol i ddarparu cyn gymaint o hyblygrwydd a phosib i wneud penderfyniadau wedi’i seilio ar amgylchiadau lleol.”
“Awgryma’r adroddiad y bydd angen £120 miliwn yn flynyddol dim ond i gael gwariant fesul disgybl yn ôl i lefelau cyn y cynni ariannol. Mae ein rhagolygon ein hunain yn dangos y bydd pwyseddau o £105m yn y system addysg ar gyfer 2020-21, ac yn codi i £289m erbyn 2022-23, yn cael ei yrru yn bennaf gan gostau gweithlu.”
“Ynghyd â’r ansicrwydd dros yr Adolygiad Gwariant a phryd y bydd Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i gyhoeddi ei chyllideb ei hun, mae hyn yn achosi pryder mawr ar draws llywodraeth leol.”
“Mae llywodraeth leol wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad i fynd i’r afael â’r materion yma i gyd gyda’r nôd o godi safonau a gwella deilliannau i ddysgwyr.”
-DIWEDD-
Nodiadau i Olygyddion:
Gellir gweld adroddiad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad yma.