Ystyriodd y Gweithgor Llywodraeth Leol y gwaith sy'n dod i'r amlwg ar fapio partneriaethau yn ei gyfarfod ar 25 Ionawr, ac roedd awydd am waith pellach i adolygu'r sefyllfa o ran partneriaethau.
Diben yr adolygiad fydd adolygu'r sefyllfa o ran partneriaethau ac ystyried a oes unrhyw gymhlethdod neu ddyblygu diangen; a chanfod cyfleoedd i symleiddio a rhesymoli.
Yr amcanion fydd:
- Canfod trefniadau partneriaeth allweddol lle teimlir bod cylch gwaith sy'n gorgyffwrdd.
- Ystyried a yw'r dibenion y sefydlwyd y trefniadau partneriaeth hyn ar eu cyfer yn parhau i fod yn ddilys;
- Ystyried a yw'r mecanweithiau ar gyfer cyflawni'r dibenion hyn (a threfniadau cefnogi) yn parhau i fod yn briodol neu a yw'n bosibl eu cyflawni mewn modd mwy effeithlon/effeithiol
- Ystyried pa drefniadau llywodraethu ac atebolrwydd sydd eu hangen
Cyflwyno argymhellion ar:
- Gamau gweithredu y gellir eu cymryd yn syth gan y partneriaethau perthnasol i resymoli partneriaethau/gwella aliniad o fewn y fframwaith deddfwriaethol cyfredol
- Camau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd yn syth i resymoli partneriaethau/gwella aliniad o fewn y fframwaith deddfwriaethol cyfredol o
- Unrhyw agwedd sy'n gofyn am newid deddfwriaethol
Cynhelir yr adolygiad fel darn o waith gorchwyl a gorffen cymesur a phragmatig, yn hytrach nag ymarfer hirfaith - a bydd yn cymryd tua chwe mis o'r dechrau i'r diwedd.
Bydd yr adolygiad yn adrodd i Gyngor Partneriaeth Cymru gyda diweddariad ar gynnydd i'r cyfarfod ar 12 Mehefin ac adroddiad terfynol i'r cyfarfod ar 2 Hydref.
Byddem yn croesawu derbyn unrhyw sylwadau gennych erbyn 5 Gorffennaf. Yna, rydym yn rhagweld cyfnod o ymgysylltiad wedi'i dargedu dros yr haf cyn darparu adroddiad terfynol gydag argymhellion i gyfarfod Cyngor Partneriaeth Cymru ar 2 Hydref.
Os hoffech drafod yr adolygiad, cysylltwch â claire.germain@llyw.cymru neu stephen.jones@wlga.gov.uk
Er gwybodaeth bellach:
- Llythyr - Agorwch y ddolen yma
- Cylch Gorchwyl - Agorwch y ddolen yma