CLILC

 

Uwch Swyddog Cyflenwi Rhaglenni (Cyfathrebu Digidol)

Dyddiad Cau: Dydd Mercher 9 Ebrill 2025

Dyddiad Cyfweliad: Dydd Iau 1 Mai 2025


Cyflog:                   Gradd 5 SCP 37 - 41 (£46,731.00 - £50,788.00)

Tymor:                   Llawn Amser, Parhaol


Swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol:  Ydi

Cymraeg yn hanfodol: Ydy. Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar    ardderchog yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.


Ynglŷn â’r Swydd                                

Mae’r Digidol yn cynnig cyfleoedd eang i lywodraeth leol ddarparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon sy’n bodloni disgwyliadau ymestynnol heriol dinasyddion mewn byd technoleg, data a diogelwch sy’n newid yn barhaus, ond mae angen ymdrin â hynny drwy ystod eang o agweddau yn y sefydliad, gan gynnwys newid diwylliant sefydliadol, ailgynllunio gwasanaethau o safbwynt y cwsmer, newid polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad, gwella sgiliau, cydweithio, gwneud gwell defnydd o ddata sefydliadol, a manteisio'n effeithiol ar y dechnoleg bresennol a thechnoleg sy’n datblygu. Mae'n cael effaith ar bob agwedd ar Gyngor ac mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef o lefel gorfforaethol a gwleidyddol ar draws meysydd polisi, er mwyn gwireddu newid go iawn.

Y Swyddog Cyfathrebu Digidol fydd yn gyfrifol am gynllunio a gweithredu cyfathrebiadau ar gyfer budd-ddeiliaid Tîm Digidol CLlLC. Mae’r swydd yn ymwneud â rheoli sianeli cyfathrebu digidol, gan gynnwys e-bost, y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol, er mwyn gwella ymgysylltiad a hyrwyddo gweithgareddau’r Tîm Digidol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau cydymffurfiaeth â Deddf yr Iaith Gymraeg, drwy gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg ac yn Saesneg.


Gwnewch gais Rŵan!

I gael sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r swydd a’r sefydliad, cysylltwch â Lindsey Phillips, Prif Swyddog Digidol ar 07527 763179

I wneud cais, anfonwch lythyr eglurhaol gyda ffurflen gais wedi'i chwblhau erbyn y dyddiad cau, Dydd Mercher 9 Ebrill 2025 i: recruitment@wlga.gov.uk. Fe fydd CLILC yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg.

Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweld panel dethol yn wyned i wyned ar Dydd Iau 1 Mai 2025.              

Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer gwblhau tasg cyn bod yn bresennol yn y cyfarfod, yn ogystal â thasgau cyn cyfweliad ar y diwrnod, wedi’i ddilyn gan gyfweliad gyda phanel dethol.

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth a chymhwysedd i weithio yn y DU.


 

https://wlga.cymru/senior-programme-delivery-officer-digital-communications