Dyddiad Cau: Dydd Mercher 9 Ebrill 2025
Dyddiad Cyfweliad: Dydd Mercher 30 Ebrill 2025
Cyflog: Gradd 3 – SCP 25 - 29 (£35,235.00 - £38,626.00)
Tymor: Llanwn Amser, Cyfnod Penodol tan Mawrth 2026 (estyniad yn posib)
Swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol: Ydi
Cymraeg yn hanfodol: Na. Dymunol yn unig ar gyfer y rôl hon.
Ynglŷn â’r Swydd
Mae Digidol yn cynnig cyfleoedd eang i lywodraeth leol ddarparu gwasanaethau effeithiol ac effeithlon sy’n bodloni disgwyliadau ymestynnol heriol dinasyddion mewn byd technoleg, data a diogelwch sy’n newid yn barhaus, ond mae angen ymdrin â hynny drwy ystod eang o agweddau yn y sefydliad, gan gynnwys newid diwylliant sefydliadol, ailgynllunio gwasanaethau o safbwynt y cwsmer, newid polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad, gwella sgiliau, cydweithio, gwneud gwell defnydd o ddata sefydliadol, a manteisio'n effeithiol ar y dechnoleg bresennol a thechnoleg sy’n datblygu. Mae'n cael effaith ar bob agwedd ar Gyngor ac mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef o lefel gorfforaethol a gwleidyddol ar draws meysydd polisi, er mwyn gwireddu newid go iawn.
Mae’r Swyddog Cyllid a Gweinyddol yn chwarae rôl allweddol mewn cefnogi’r tîm digidol i gydlynu gweithgareddau prosiect, hwyluso prosesau rheoli prosiect effeithiol a darparu cymorth gweinyddol, llywodraethu ac ariannol. Mae’r rôl hon yn gofyn am sgiliau trefnu ardderchog, sylw i fanylder a’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol.
Gwnewch gais Rŵan!
I gael sgwrs gychwynnol ynglŷn â’r swydd a’r sefydliad, cysylltwch â Lindsey Phillips, Prif Swyddog Digidol ar 07527 763179
I wneud cais, anfonwch lythyr eglurhaol gyda ffurflen gais wedi'i chwblhau erbyn y dyddiad cau, Dydd Mercher 9 Ebrill 2025 i: recruitment@wlga.gov.uk. Fe fydd CLILC yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg.
Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweld panel dethol yn wyneb i wyneb ar Dydd Mercher 30 Ebrill 2025. .
Efallai y bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer gwblhau tasg cyn bod yn bresennol yn y cyfarfod, yn ogystal â thasgau cyn cyfweliad ar y diwrnod, wedi’i ddilyn gan gyfweliad gyda phanel dethol.
Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o hunaniaeth a chymhwysedd i weithio yn y DU.