CLILC

 

Telerau Cyflogaeth

Telerau Cyflogaeth

Mae CLlLC yn cyflogi ei gweithwyr yn ôl amodau’r Cydgyngor Gwladol dros Wasanaethau Llywodraeth Leol a’r amryw gytundebau lleol sydd wedi’u newid.  Dyma’r prif ofynion:

 

Cyflog:

Byddwn ni’n talu’ch cyflog fesul mis calendr trwy gredyd banc ar y 15fed diwrnod o bob mis neu oddeutu hynny.

 

Oriau gwaith:

36 o oriau yw’r wythnos safonol.  Mae’r swyddfa ar agor o 9.00 tan 5.00 rhwng dydd Llun a dydd Gwener, er y gallai fod rhaid amrywio hynny yn ôl anghenion y gwaith.

 

Amser hyblyg:

Mae CLlLC yn cynnig trefn amser hyblyg i bob swydd o dan lefel pennaeth polisïau.

 

Treuliau teithio a chynnal:

Un o’r amodau penodi yw bod ein staff yn fodlon gweithio unrhyw le yng Nghymru, gweddill y Deyrnas Gyfunol neu Ewrop ar adegau.  Byddwn ni’n talu treuliau teithio a chynnal yn ôl cynllun CLlLC pan fo rhywun yn gweithio y tu allan i’w ganolfan.

 

Gwyliau:

Yr hawl gwyliau am flwyddyn lawn (mae’r flwyddyn wyliau yn weithredol o 1 Ebrill tan 31 Mawrth y flwyddyn ganlynol) fydd 26 diwrnod i ddechrau, ynghyd â gwyliau statudol. Gallai gweithwyr llywodraeth leol presennol dderbyn gwyliau ychwanegol yn seiliedig ar wasanaeth parhaus i lywodraeth leol

 

Pensiwn:

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei dderbyn yn awtomatig i’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol. Cynllun cyfrannol yw hwn sydd wedi nodi buddion ar gyfer gweithwyr. https://mpfmembers.org.uk/content/members-currently-contributing-lgps

 

Rhybudd:

Os ydych chi’n bwriadu gadael eich swydd, rhaid rhoi gwybod fis calendr ymlaen llaw.  Caiff y cyfnod ddechrau unrhyw ddiwrnod o’r mis.  Rhaid i staff uwch roi rhybudd o 3 mis. Yn yr un modd, rhaid i CLlLC roi rhybudd i chi fis calendr ymlaen llaw neu roi rhybudd yn ôl y cyfnod statudol cyfredol, faint bynnag sy’n hiraf.

https://wlga.cymru/terms-of-employment