CLILC

 

Prosiect Cyllid Gwastraff

Caiff Adroddiad Cyllid Gwastraff ei gyhoeddi’n flynyddol ac mae’n rhoi dadansoddiad o ddata ariannol yn ymwneud â:

 

  • Gwastraff Gweddilliol
  • Gwastraff Bwyd
  • Gwastraff Gwyrdd
  • Gwastraff Bwyd a Gwyrdd cymysg
  • Ailgylchu Sych
  • Safleoedd Banciau Ailgylchu
  • Canolfannau Ailgylchu Gwastraff Cartref
  • Gwastraff Masnachol
  • Casgliadau Clytiau/gwastraff AHP
  • Gwastraff Clinigol

 

Y prif resymau dros lunio adroddiad cyllid gwastraff blynyddol yw:

 

  • Darparu adroddiadau cyllid blynyddol ar reolaeth gwastraff awdurdodau lleol. Noddir cyfran sylweddol o weithgarwch ailgylchu drwy’r Grant Refeniw Sengl (GRS) a hoffai Llywodraeth Cymru, yn ddigon dealladwy, weld a yw hwn yn cael ei ddefnyddio mor effeithiol â phosibl
  • Modelu cost ar gyfer yr adolygiad o’r strategaeth wastraff genedlaethol.
  • Er mwyn caniatáu gwell cymhariaeth rhwng awdurdodau lleol; caniatáu rhannu arfer gorau, gwella gwasanaethau a chreu arbedion effeithlonrwydd. 

 

Proses

Mae Wastedataflow (cronfa ddata ar gyfer casglu data tunelledd o weithgareddau gwastraff) wedi cael ei addasu yng Nghymru i greu un pwynt mynediad ar gyfer derbyn data tunelledd ac ariannol perthnasol i wastraff a fewnbynnwyd gan awdurdodau lleol. Unwaith y bydd yn gyflawn dadansoddir y wybodaeth hon i gynhyrchu adroddiad cyllid gwastraff, ynghyd â chrynodebau unigol byr ar gyfer pob awdurdod lleol. Defnyddir yr adroddiad hefyd ar gyfer dadansoddiad mwy ansoddol drwy’r gwaith Meincnodi Gwastraff, gan asesu’n fwy manwl yr hyn sy’n achosi gwahaniaethau yng nghostau awdurdodau. Mae gwelliannau i’r broses hon dros y blynyddoedd wedi helpu i wella ansawdd, cywirdeb a chysondeb y data a geir.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Emma Shakeshaft

https://wlga.cymru/waste-finance-project