CLILC

 

Cynghorau Cymru yn ymateb i ymosodiad terfysgol ym Manceinion

  • RSS
Dydd Gwener, 03 Hydref 2025 Categorïau: Newyddion
Dydd Gwener, 03 Hydref 2025

Yn dilyn yr ymosodiad terfysgol erchyll ym Manceinion, dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC:

"Rydym wedi ein siglo a’n tristáu’n fawr gan yr ymosodiad erchyll a ddigwyddodd yr wythnos hon ym Manceinion. Mae meddyliau teulu llywodraeth leol Cymru gyda'r dioddefwyr, eu teuluoedd, a'r gymuned Iddewig gyfan ar yr adeg hon o alar ac ofn gwirioneddol.

"Mae cynghorau yng Nghymru yn unedig wrth gondemnio'r weithred hon o derfysgaeth. Rydym yn ailddatgan ein hymrwymiad pendant i hyrwyddo parch, cynhwysiant, a chydlyniant cymunedol.

"Nid oes lle i gasineb yn ein cymunedau. Rhaid i ni gyd weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod pob person – waeth beth fo'u ffydd, cefndir neu hunaniaeth – yn teimlo'n ddiogel, yn cael ei barchu a'i werthfawrogi.”

https://wlga.cymru/welsh-councils-respond-to-manchester-terrorist-attack