CLILC

 

CLlLC yn Canmol Myfyrwyr Cymraeg ar Canlyniadau Safon Uwch

  • RSS
Dydd Iau, 17 Awst 2023 Categorïau: Dysgu gydol oes Newyddion
Dydd Iau, 17 Awst 2023

Mae llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) dros Addysg a’r Iaith Gymraeg, y Cynghorydd Ian Roberts wedi llongyfarch myfyrwyr yng Nghymru ar eu canlyniadau Lefel A.

 

Dywedodd Llefarydd WLGA dros Addysg, y Cynghorydd Ian Roberts:

 

“Hoffwn estyn fy llongyfarchiadau i fyfyrwyr ar eu canlyniadau Lefel A ar ran awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae eich ymroddiad a'ch gwaith caled wedi talu ar ei ganfed, a dylech fod yn hynod falch o'ch cyflawniadau. Dymunwn y gorau i'r bobl ifa nc hyn yn eu dyfodol.

 

“Hoffem hefyd fynegi ein diolch i staff ysgolion ymroddedig sydd wedi bod yn ddiwyro yn eu cefnogaeth a’u harweiniad. Mae ymrwymiad pawb yn y system addysg i feithrin y meddyliau ifanc hyn yn wirioneddol glodwiw ac yn chwarae rhan ganolog mewn creu amgylchedd dysgu cadarnhaol a chyfoethog ar gyfer ein myfyrwyr. Eu gwaith anhygoel yw’r sylfaen ar gyfer adeiladu llwyddiant a thwf ein myfyrwyr.”

 

I unrhyw un na chafodd y canlyniadau roedden nhw eu heisiau, neu sy’n ansicr ynghylch eu camau nesaf, cysylltwch â Gyrfa Cymru am gyngor, siaradwch â’ch ysgol neu goleg neu ewch i wefan Cymru’n Gweithio.

 

DIWEDD –

https://wlga.cymru/wlga-commends-welsh-students-on-a-level-achievements