CLILC

 

Gwella Dinasyddiaeth Ddigidol: Canllaw Ymarferol i Gynghorwyr

Beth yw dinasyddiaeth ddigidol?

Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn ofod cyhoeddus pwysig, lle ble mae cynghorwyr yn rhannu gwybodaeth wleidyddol ac yn ymgysylltu â chynghorwyr eraill a phreswylwyr. Mae gan y cyfryngau cymdeithasol y potensial i wella democratiaeth drwy hwyluso sgyrsiau mwy, mwy rhydd a mwy agored a thrwy alluogi cynrychiolwyr i gyfathrebu’n uniongyrchol â dinasyddion. Ond mae hefyd yn agor y drws i gamdriniaeth, aflonyddwch a bygythiadau, ynghyd â lledaenu camwybodaeth a thwyll wybodaeth a all effeithio ar ddemocratiaeth leol.

 

Mae papur gwyn Llywodraeth y DU Online Harms White Paper yn diffinio twyllwybodaeth fel lledaenu gwybodaeth ffug i dwyllo’n fwriadol. Cyfeirir at gamwybodaeth fel rhannu gwybodaeth ffug yn anfwriadol. Gall y ddau gyfeirio at wybodaeth ffug am bolisi neu fater (e.e. gwybodaeth gamarweiniol neu ffug am COVID-19) neu ledaenu straeon am unigolyn (yn cynnwys, e.e. lladd ar gymeriad).

 

Mae aflonyddu, bygwth a cham-drin ar-lein, a lledaenu cam a thwyll wybodaeth, yn heriau mawr bellach i ddemocratiaeth leol. Maent yn tanseilio ymgysylltiad cynhyrchiol rhwng ymgeiswyr neu swyddogion etholedig a dinasyddion, yn gwaethygu diffyg ymddiriedaeth a pholareiddio mewn gwleidyddiaeth, ac yn rhwystrau pellach i gyfranogiad gwleidyddol.[i] Gyda’r rheiny o grwpiau a dan gynrychiolir yn adrodd am lefelau anghymesur o gam-drin a bygwth ar-lein ac fel arall, mae hyn yn broblem o ran cynyddu amrywiaeth ein cynrychiolwyr lleol.

 

Oherwydd eu bod mor bresennol ac yn cyrraedd yn bell, mae aflonyddu, cam-drin a bygwth unigolion mewn bywyd cyhoeddus yn denu sylw yn y DU a thros y byd. Gwnaed ymdrechion cenedlaethol a rhyngwladol i wella hyfforddiant i’r heddlu a chynyddu ymwybyddiaeth a gwarchodaeth. Ond mae’r rhan fwyaf o’r cynlluniau yn delio â’r cam-drin wedi iddo ddigwydd. Yn y cyfamser, mae natur a chanlyniadau pellgyrhaeddol aflonyddu a bygwth yn gofyn am ddull gwahanol; un sydd yn ataliol, yn rhagweithiol ac yn gadarnhaol.

 

Mae gwella dinasyddiaeth ddigidol yn elfen allweddol o waith cwrteisi mewn bywyd cyhoeddus gan yr LGA, WLGA, COSLA a’r NILGA, ac mae’n dod yn fwy a mwy pwysig wrth i’n rhyngweithio dyfu ac wrth i dechnolegau gwybodaeth newydd ddod yn rhan o’r prif ffyrdd y mae dinasyddion, cynghorwyr a swyddogion yn cyfathrebu.

 

Mae dinasyddiaeth ddigidol yn golygu ymddwyn yn briodol a chyfrifol wrth ddefnyddio technoleg ac annog pobl eraill i wneud hynny hefyd. Mae’n cwmpasu llythrennedd digidol, moeseg, cwrteisi, diogelwch ar-lein, normau, hawliau, diwylliant a mwy. 

 

Mae datblygu dinasyddiaeth ddigidol yn gofyn i ni wella cyfathrebu gwleidyddol ar-lein. Mae’n golygu mynegi’n safbwyntiau tra’n parchu hawliau a chymeriadau pobl eraill ac osgoi eu rhoi mewn risg neu achosi trallod diangen. Mae’n golygu parchu rhyddid i fynegi barn ac i anghytuno ond yn condemnio camdriniaeth.[ii]

 

Mae’r canllaw hwn yn rhoi cyngor ymarferol ac adnoddau i gynghorwyr, ac mae ei gyhoeddiad partner “Gwella Dinasyddiaeth Ddigidol - Ymchwil ac Arfer Gorau” yn rhoi cefndir ac ymchwil defnyddiol, ac yn edrych ar y gwaith da sy’n digwydd yn y DU a thramor i wneud gwahaniaeth.

 

Seiliwyd y cyngor a’r adnoddau canlynol ar yr ymchwil a’r arfer gorau mwyaf diweddar sydd ar gael, ac ar gyngor gan y cynghorwyr a’r swyddogion eu hunain am yr hyn sydd wedi gweithio.

 

Cyngor gan gynghorwyr a swyddogion

Dewis pa blatfform

Mae’n ddefnyddiol deall fod gwahaniaethau yn y ffordd y lluniwyd platfformau sydd yn eu gwneud yn fwy neu’n llai addas i ddibenion arbennig. Er enghraifft:

  • Mae platfformau fel Facebook yn debyg i flogiau bach, yn fwy addas i grwpiau lleol.
  • Mae Twitter yn fwy addas i ymgysylltu a chynulleidfaoedd mwy a chyffredinol. Mae gwybodaeth ar Twitter yn tueddu i deithio’n gyflymach ac ymhellach ond mae’r cyfyngu ar nodau yn ei gwneud yn anodd cael trafodaethau ystyrlon arno.
  • Gallwch rannu lluniau a fideos ar Instagram drwy ei ap symudol ac mae’n tyfu’n gyflym mewn pwysigrwydd gwleidyddol. Fodd bynnag, er bod ei natur weledol yn ddefnyddiol i ddenu cynulleidfaoedd, mae cyfyngiad ar faint gall ymgysylltu.[iii]

 

Bydd yna blatfformau eraill sy’n berthnasol i’r maes hwn wrth i dechnoleg a thueddiadau ddatblygu, ond mae’r canllaw hwn yn cynnig egwyddorion cyffredinol a ddylai helpu’r defnyddwyr i ryngweithio ar-lein yn llwyddiannus.

 

Gosod ffiniau

Mae cynghorwyr etholedig a swyddogion cefnogi yn sôn yn aml fod gan aelodau o’r cyhoedd syniadau neu ddealltwriaeth gwahanol am yr hyn sydd ac sydd ddim yn dderbyniol ar-lein. Er bod rhai unigolion yn ymddwyn yn ddifrïol gyda’r bwriad o godi ofn, nid yw eraill wir yn deall effaith eu hymddygiad. Nid yw hyn yn esgusodi unrhyw gam-drin wrth reswm, ond gall egluro pan ei bod yn anodd i rai pobl sylweddoli eu bod yn cam-drin.

 

Mae cynghorwyr yn awgrymu y bydd cael canllawiau clir ar yr hyn sy’n golygu aflonyddu, cam-drin a bygwth ar-lein yn helpu i herio camdriniaeth ac i roi mesurau cyson yn eu lle i’w daclo. Nodwyd fod gan gynghorwyr ddylanwad yn eu cymunedau ac wrth gyfathrebu’n barchus ag eraill gallant helpu i greu ymgysylltiad cadarnhaol rhwng cynghorwyr a phreswylwyr

 

Dywed rhai cynghorwyr eu bod yn ei chael yn ddefnyddiol cyfyngu eu rhyngweithio ag unigolion sy’n ymddwyn yn wael drwy ymateb unwaith gyda gwybodaeth ffeithiol a/neu gyfeirio’n ôl at y cod ymddygiad neu’r rheolau ymgysylltu a pheidio ag ymateb eto os yw’r anfri yn parhau. Mewn achosion lle mae’r anfri’n parhau er gwaethaf ymateb cwrtais gan y cynghorydd, maent yn ei chael yn ddefnyddiol tynnu llun o’r sylwadau fel na ellir eu dileu a’u gwadu wedyn ond heb ymgysylltu pellach. Ar adegau pan mae’r cam-drin yn gwaethygu, mae’n ddefnyddiol cael cofnod o’r cyfathrebu a fydd yn dystiolaeth pe bai angen gwneud cwyn ffurfiol.

 

Gosod disgwyliadau

Dywedodd swyddogion cefnogi nad yw cynghorwyr yn aml yn gwybod neu’n teimlo mai dewis yw bod yn weithgar ar y cyfryngau cymdeithasol ac nad yw’n un o ofynion statudol y swydd. Mae’n bwysig rhoi sicrwydd i gynghorwyr, er y gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn offeryn defnyddiol i ymgysylltu, nid ydynt yn hanfodol ac mae dulliau cyfathrebu eraill yn cynnwys e-byst neu gymorthfeydd yr un mor ddilys.

 

Mae’n bwysig fod cynghorwyr yn gweithio gyda’u timau cyfathrebu yn y cyngor i ddeall agweddau lleol at ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Yn aml bydd canllawiau a phrotocolau ar gael i helpu aelodau i ymgysylltu â’r cyhoedd ac â’i gilydd.

 

Mae natur gyflym cyfryngau cymdeithasol wedi codi’r disgwyliad am ymgysylltiad parhaus. Nodwyd gan gynghorwyr a swyddogion cefnogi ei bod yn ddefnyddiol gosod amserau i ddarllen ac i ymateb i negeseuon cyfryngau cymdeithasol ac i osod disgwyliadau clir ynghylch beth gall aelodau o’r cyhoedd ddisgwyl a beth na allant ddisgwyl gan gynghorwyr ar bob platfform.

 

Mewn adolygiad manwl o sampl ar hap o dudalennau Facebook gwahanol gynrychiolwyr etholedig, nodwyd fod rhai yn cynnwys negeseuon clir ar nod a chwmpas y dudalen. Er enghraifft, dywed rhai mai nod y dudalen yw sôn am weithgareddau sy’n berthnasol i rôl y cynghorydd, a’i bod yn well gan y cynghorydd ddelio â gwaith achos a anfonwyd ar e-bost neu y byddant yn ymateb yn ystod oriau a dyddiau arbennig yn yr wythnos. Mae eraill yn datgan yn glir mai’r nod yw cyfleu gwybodaeth ac na fyddant yn cymryd rhan mewn unrhyw drafodaeth yn y fforwm. Mae gosod rheolau ymgysylltu penodol, fel y rhai a gyflwynir yn ddiweddarach yn yr adroddiad hwn, yn anfon neges glir i ddefnyddwyr am yr hyn i’w ddisgwyl ac mae’n help i osod ffiniau.

 

Tôn

Mae gosod ffiniau clir am amseroedd i ymgysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd yn helpu cynghorwyr i arfer ymatal. Mae swyddogion cymorth yn nodi eu bod yn aml yn annog cynghorwyr i beidio ag ymateb yn syth i unrhyw bostiad, yn enwedig os ydynt yn ddifrïol, ac i ychwanegu negeseuon “Byddwch yn Garedig” pan mae materion yn codi er mwyn atgoffa’r rheiny sy’n cymryd rhan. Hefyd, mae cymryd amser cyn ateb yn gwella pendantrwydd - mynegi unrhyw safbwynt mewn modd sy’n glir ac yn uniongyrchol tra’n dal i barchu eraill - sy’n helpu cynghorwyr i leihau gwrthdaro ac ennill rheolaeth yn ôl dros yr adweithiau emosiynol a all gael eu tanio gan bostiad.

 

Mae cyfathrebu pendant yn ffordd dda iawn o dawelu gwrthdaro drwy wahanu emosiwn o’r cynnwys. Mae materion dadleuol yn fwy tebygol o ddenu anghytundeb ac, yn anffodus, yn cymell rhai unigolion i gymryd rhan mewn camdriniaeth. Mae anghytundeb a pherswadio wrth wraidd gwleidyddiaeth. Pan mae gwrthdaro’n digwydd, gall fod yn ddefnyddiol gan fod angen i’r ddwy ochr gyd-drafod er mwyn dod i gytundeb. Ond mae angen parchu’r llinell rhwng gwrthdaro, bygwth a cham-drin a pheidio â’i chymysgu â rhyddid mynegiant.

 

Dull pendant o gyfathrebu fyddai gofyn i’r unigolion nodi’n benodol pa elfennau o’r polisi neu’r penderfyniad nad ydyn nhw’n eu hoffi. Mae’r strategaeth hon, yn y rhan fwyaf o achosion, yn ail-gyfeirio’r sgwrs i fyd polisi, gan roi cyfleoedd i’r cynghorydd egluro’r broses o wneud penderfyniadau neu gyfeirio’r unigolyn at wybodaeth berthnasol.

 

Cywirdeb

Yn ychwanegol, soniodd swyddogion cefnogi a chynghorwyr am bwysigrwydd sicrhau fod yr wybodaeth y maent yn ei rhannu yn gywir. Maent yn argymell defnyddio datganiadau swyddogol i’r wasg ac osgoi amwysedd yn yr wybodaeth a rennir. Mae cynghorwyr yn arweinwyr yn eu cymuned ac felly, dylent geisio arwain drwy esiampl, ac osgoi lledaenu straeon heb eu gwirio, cam a thwyll wybodaeth gan y byddai hynny’n tanseilio cyfreithlondeb y penderfyniadau ac yn achosi problemau o fewn cymunedau, megis o ran iechyd cyhoeddus neu ddiogelwch y gymuned.

 

Gall sibrydion am gyd gynghorwyr fod yn niweidiol iawn i’w henw da, eu diogelwch a’u hiechyd meddwl. Mae’r canllawiau sydd yn yr adran nesaf yn cynnig rhai camau defnyddiol i’w dilyn i osgoi rhannu cam a thwyll wybodaeth a gellir eu cymhwyso hefyd i osgoi lledaenu sibrydion am gynghorwyr.

 

Cyfarfodydd ar-lein

Ar ôl i bandemig COVID-19 ddechrau ac yn arbennig yn ystod y cyfnod clo, symudodd cyfarfodydd i raddau helaeth ar-lein. Roedd hyn yn cyflwyno heriau i gynghorwyr a swyddogion cymorth o ran sut i feithrin rhyngweithio cadarnhaol a ffrwythlon mewn sefyllfaoedd o’r fath. Dyma rai arferion defnyddiol a nodwyd:

  1. gwybod pwy sy’n cymryd rhan mewn cyfarfodydd ar-lein drwy gofrestru defnyddwyr a monitro’r sgwrs;
  2. sefydlu protocol digidol i ddistewi (mute) defnyddwyr pan fo angen, rheoli ymyriadau, neilltuo rôl llywyddion a sefydlu canlyniadau am dorri’r protocol;
  3. cofnodi cyfarfodydd gan fod hynny’n atal rhai pobl rhag dweud pethau allan o drefn a hefyd, gellir ei ddefnyddio fel tystiolaeth pan fo cam-drin yn digwydd.

 

Yng Nghymru mae, Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod y sail gyfreithiol ar gyfer cynnal cyfarfodydd Cynghorau a phwyllgorau mewn sawl lle. Mae’r Ddeddf yn galluogi Cynghorau i ddewis y dull o fynychu cyfarfodydd sy’n amrywio o’r wyneb yn wyneb yn llwyr, drwy’r hybrid i’r cyfan gwbl rithwir. Mae’r gofynion ar gyfer darlledu wedi’u gosod yn y Ddeddf hefyd. Mae’r canllawiau statudol gan Lywodraeth Cymru (ar fin ei gyhoeddi) yn gosod yn fanylach sut gall aelodau gymryd rhan mewn cyfarfodydd aml-leoliad.

 

Nodwyd fod hyfforddiant priodol ar gyfathrebu ar-lein a thechnolegau gwybodaeth yn elfen allweddol mewn gwell dinasyddiaeth ddigidol. Mae’r Canllaw i Gynghorwyr ar daclo bygythiadau yn cynnwys cyngor ymarferol ar sut i ddefnyddio gosodiadau preifatrwydd ac offerynnau eraill ar wahanol blatfformau cyfryngau cymdeithasol. Mae gan yr hyb Cyfarfodydd ar-lein a hybrid wybodaeth am wahanol blatfformau fideo a sain, astudiaethau achos a mynediad at gefnogaeth i gynghorau a chynghorwyr sy’n defnyddio technolegau cyfarfod ar-lein. Yn yr Alban, mae’r Gwasanaeth Gwelliant wedi cyhoeddi adnodd i grwpiau gwleidyddol ar weithio o bell a chanllawiau i gynghorwyr ar gynnal cymorthfeydd rhithwir.

 

Offerynnau i gynghorwyr

Canllaw i gynghorwyr ar ddelio â bygythion

Datblygodd yr LGA a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA)  yr adnodd hwn ar y cyd yn dilyn cyngor gan gynghorau, cynghorwyr a chyrff eraill sy’n cynrychioli cynghorau, yn ogystal â mudiadau cenedlaethol fel Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh a’r Sefydliad Cenedlaethol Diogelwch Gwrthderfysgaeth.

 

Mae’r canllaw’n ymdrin â phynciau fel sut i fynd i’r afael â cham-drin, wyneb yn wyneb, mewn llythyrau neu ar-lein, a’r rhwymedïau cyfreithiol ac ymarferol, yn cynnwys natur y troseddau dan sylw a bydd yn cael ei ddiweddaru’n gyson gyda’r cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael.

 

Byddwn yn diweddaru’r canllaw hwn yn fuan i sicrhau ei fod yn weithredol hefyd ar draws yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Delio â cham-drin ar-lein

Mae canllawiau cynghorwyr ar sut i ymdrin â bygythiadau yn cynnwys cyngor ar ddelio â cham-drin ar-lein. Mae hwn ar gael ar ffurf graffeg yn Gymraeg a Saesneg, ac fe’i crynhoir mewn 10 cam hawdd eu dilyn:

  1. Gosod disgwyliadau – cyfeiriwch bobl at eich rheolau ymgysylltu a dilynwch y rhain yn gyson
  2. Arwain drwy esiampl – peidiwch â phostio sylwadau y gellid eu hystyried yn rhai difrïol, ac osgowch bostio gwybodaeth ffug neu nas dilyswyd.
  3. Ystyriwch y cynnwys – bydd rhai pethau’n fwy dadleuol nac eraill. Ystyriwch sut y byddwch yn rheoli hyn, er enghraifft dim ond rhoi sylwadau ar y polisi ei hun neu gyfeirio pobl at ddogfennau ymgynghori.
  4. Lleihau gwrthdaro – gall aros cyn ymateb wneud sefyllfaoedd yn llai tanbaid, fel y gall ail-eirio’r hyn a ddywedwch.
  5. Gwybod pryd i gamu’n ôl - Cofiwch nad oes raid i chi gymryd rhan mewn ymddygiad camdriniol neu fygythiol. Gallwch egluro gwall gyda gwybodaeth ffeithiol os dymunwch, ond gallwch hefyd gamu’n ôl pan fyddwch eisiau.
  6. Diogelu’ch preifatrwydd - gosodwch gyfrineiriau gwahanol i gyfrifon gwahanol, a pheidiwch â phostio gwybodaeth sy’n galluogi pobl i weld ble’r ydych chi y tu allan i fusnes swyddogol y cyngor.
  7. Deall gosodiadau preifatrwydd – mae amryw o osodiadau i’ch helpu i reoli pwy all weld neu roi sylwadau ar eich postiadau.
  8. Cael a rhoi gwybodaeth – os ydych yn teimlo’ch bod yn gallu, rhowch gefnogaeth i’ch cyd-gynghorwyr ar-lein, ac estynnwch allan i gydweithwyr ac i’ch cyngor i gael cefnogaeth lle bo angen.
  9. Cofnodi camdriniaeth – tynnwch sgrinluniau o sylwadau a chadwch gofnod o ohebiaeth ddifrïol neu fygythiol.
  10. Riportio pethau difrifol – os ydych yn teimlo na allwch ddelio â chamdriniaeth ar-lein eich hun, neu os oes gennych bryderon am eich diogelwch, riportiwch hyn i’ch cyngor neu’r heddlu

 

Rheolau ymgysylltu

Lluniwyd y rheolau hyn i roi ‘cod’ clir, sef rheolau y dylent eu dilyn gyda chanlyniadau i’r defnyddwyr nad ydynt yn glynu atynt. Rydym wedi cynhyrchu deunydd graffeg ategol yn Gymraeg a Saesneg fel y gellir gosod y rheolau wrth broffil cyfryngau cymdeithasol cynghorydd neu ymgeisydd. Dylai’r rheolau ymgysylltu gynnwys:

  1. Neges glir o ran nod y fforwm, y dudalen neu’r cyfrif
  2. Cydnabyddiaeth o delerau ac amodau cymryd rhan
  3. Rheolau cyfranogi - 
    • Rheol 1: Mae croeso i ddadl ac anghytundeb ar y dudalen hon, ond dim ond os y’u gwneir gyda chwrteisi a pharch. 
    • Rheol 2: Ni ddylai postiadau gynnwys camdriniaeth, aflonyddwch, codi ofn na bygythiadau o unrhyw fath. 
    • Rheol 3: Ni ddylai postiadau gynnwys unrhyw fath o wahaniaethu - yn cynnwys hiliaeth, rhywiaeth, ablaeth, homoffobia, trawsffobia neu anoddefgarwch crefyddol. 
    • Rheol 4: Ni ddylai postiadau ledaenu gwybodaeth ffug neu wybodaeth nas dilyswyd. 
    • Rheol 5: Er mwyn bod yn dryloyw, nid ddylai defnyddwyr bostio’n ddienw.
  4. Canlyniadau torri rheolau
  5. Gwybodaeth am yr hyn y gall defnyddwyr ei ddisgwyl o ran ymatebion neu eu dewis ffyrdd o gysylltu

 

Dylai cynghorwyr geisio osgoi lledaenu straeon nas dilyswyd, a cham a thwyll wybodaeth. Mae cymryd rhan mewn arferion o’r fath yn tanseilio enw da’r cyngor a gall beryglu bywydau a lles pobl eraill. Mae’n nodwedd o’r oes hon fod angen prosesu ac arfarnu symiau mawr o wybodaeth yn gyson ond gall gwybodaeth gael ei pheryglu’n hawdd. Yn fwy ha hynny, nid yw technoleg bob amser yn ei gwneud yn hawdd adnabod pa wybodaeth sy’n wir a pha un sydd ddim. Mae’r canllaw byr hwn yn helpu cynghorwyr i fod yn ofalus wrth ddarllen a rhoi gwybodaeth ar-lein.

  • Cam 1 Gwirio’r ffynhonnell: Chwiliwch am y ffynhonnell, a byddwch yn amheus o wefannau nad ydych yn eu hadnabod, hyd yn oed os ydynt yn edrych yn broffesiynol
  • Cam 2 Triongli gwybodaeth: Edrychwch i weld a yw’r un wybodaeth wedi cael ei chyhoeddi ar wefannau eraill sy’n wybyddus a dibynadwy
  • Cam 3 Darllen y tu hwnt i’r penawdau: Peidiwch byth â rhannu gwybodaeth os nad ydych wedi darllen yr erthygl lawn. Mae gwybodaeth gudd yn aml yn cuddio o dan benawdau sy’n tynnu sylw
  • Cam 4 Cywiro anwireddau: Os ydych yn gweld rhywbeth ar y cyfryngau cymdeithasol sydd ddim yn wir, cywirwch ef yn ddi-ffws drwy roi gwybodaeth ffeithiol, yn enwedig pan mae pobl yn eich ystyried yn rhywun y gellir ymddiried ynddo i gynrychioli’r gymuned.
  • Cam 5 Bod yn adeiladol: Gall gwefannau ac erthyglau gymysgu ffeithiau gyda gwybodaeth anghywir. Cyn rhannu, gwiriwch fod y cynnwys yn cyfleu neges adeiladol sy’n cyd-fynd â’r pennawd

 

Os nad ydych yn siŵr a yw rhywbeth yn gywir, mae’n well peidio â rhannu na chylchredeg.

 

Cod Ymddygiad Model

Mae’n rhaid i bob cynghorydd ddilyn cod ymddygiad i ddiogelu rôl ddemocrataidd cynghorwyr, annog ymddygiad da a diogelu ymddiriedaeth y cyhoedd mewn llywodraeth leol. Mae’r rhain yn annog cynghorwyr i weithredu gydag unplygrwydd a gonestrwydd, trin pobl yn deg a gyda pharch ac arwain drwy esiampl mewn ffordd sy’n sicrhau hyder y cyhoedd yn rôl y cynghorydd.

 

Mae gan bob gwlad ei chod ymddygiad ei hun i gygnghorwyr: yn Lloegr, mae’r LGA wedi datblygu cod model i’w addasu’n lleol; yng Nghymru mae Cod statudol; yn yr Alban caiff y Cod ei gymeradwyo gan Senedd yr Alban ac mae’n weithredol i bob cynghorydd; ac yng Ngogledd Iwerddon mae pob cyngor yn mabwysiadu’r un cod:


[i] Rossini P. Beyond Incivility: Understanding Patterns of Uncivil and Intolerant Discourse in Online Political Talk. Communic Res 2020. doi:10.1177/0093650220921314

[ii] Tambini D. The differentiated duty of care: a response to the Online Harms White Paper. J Media Law 2019;11:28–40. doi:10.1080/17577632.2019.1666488

[iii] Parmelee JH, Roman N. Insta-Politicos: Motivations for Following Political Leaders on Instagram. Soc Media + Soc 2019;5:205630511983766. doi:10.1177/2056305119837662.


Fersiwn Saesneg ar gael yma

https://wlga.cymru/gwella-dinasyddiaeth-ddigidol-canllaw-ymarferol-i-gynghorwyr