CLILC

 

Ein Nod

Gwasanaethau yn ôl anghenion cymunedau ar hyn o bryd ac yn y dyfodol

Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

 “Mae llywodraeth leol yn arwain y ffordd ar baratoi gwasanaethau cyhoeddus lleol at y dyfodol"

Bodloni anghenion y presennol a diogelu anghenion y dyfodol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn gwneud hyn yn ddyletswydd statudol ar bob cyngor yng Nghymru.

 

Mae’r Ddeddf yn berthnasol i bob un o feysydd gweithgarwch llywodraeth leol (y presennol a’r dyfodol) ac mae wedi gofyn i ni wneud newidiadau sylweddol i’n prosesau a’n ymddygiad.

 

Mae’n gofyn i gynghorau feddwl am y tymor hwy wrth wneud penderfyniadau, gan ystyried effaith gymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol ein gweithredoedd ar genedlaethau’r dyfodol.

 

Mae cynllunio ar gyfer y tymor hwy yn gymhleth, a bydd yn anodd wrth wynebu pwysau mwy dybryd adfer a thrawsnewid ar ôl pandemig Covid, gadael yr UE, datgarboneiddio a newid hinsawdd, yng nghyd-destun cyllidebau llai a mwy o alw am wasanaethau.

 

Mae’r Ddeddf ei hun yn cynnig fframwaith sy’n rhoi rhyddid i gynghorau lunio eu hamcanion a’u gwasanaethau o amgylch anghenion y gymuned leol yn y cyfnod heriol hwn.

 

Ein nod yw cefnogi ein cynghorau lleol a sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol sy’n bodloni anghenion eu cymunedau, heb gyfaddawdu ar anghenion cenedlaethau’r dyfodol.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Neville Rookes

https://wlga.cymru/well-being-of-future-generations