CLILC

 

Adnoddau

Mae’r Rhaglen Cefnogi Newid Hinsawdd, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn darparu cymorth i Awdurdodau Lleol wrth iddynt weithio tuag at ddod yn garbon net sero erbyn 2030.

 

Gan ganolbwyntio ar y pedwar thema allweddol o fap llwybr datgarboneiddio Llywodraeth Cymru; adeiladau, defnydd tir, cludiant a chaffael, bydd y rhaglen yn darparu ystod o gefnogaeth gan gynnwys pecynnau gwaith, ymchwil wedi’i gomisiynu ar ymyraethau i gyflawni sero net, hyfforddiant i adeiladu gwybodaeth ac arbenigedd, a digwyddiadau i hwyluso rhannu arferion da. Mae’r Rhaglen hefyd yn cynnwys addasu, edrych ar gamau sy’n ofynnol i wella gwytnwch gwasanaethau cyngor a chymunedau yn sgil effeithiau newid hinsawdd. 

 

Bydd y dudalen gwe yn cael ei diweddaru yn rheolaidd gyda gwybodaeth ar y rhaglen ac yn darparu banc o adnoddau i gefnogi Awdurdodau Lleol ar y siwrnai tuag at ddatgarboneiddio.

 

Cynlluniau gweithredu datgarboneiddio cynghorau - Ewch i wefan y Cynghorau i weld eu Cynllun Gweithredu a’r gwaith maent wedi bod yn ei wneud ar ddatgarboneiddio.


Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Dewi Jones

https://wlga.cymru/resources