Ymchwiliadau pwyllgorau’r Cynulliad

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (CCC) nifer o bwyllgorau sy’n cynnal cyfarfodydd casglu tystiolaeth ar bynciau penodol drwy gydol y flwyddyn. Mae’r cyfarfodydd hyn fel arfer yn cael eu cynnal yn adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd ac yn cynnwys Aelodau Cynulliad penodedig (AC) o’r gwahanol bartïon.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn derbyn gwahoddiadau gan y pwyllgorau i fynychu cyfarfodydd er mwyn cyflwyno barn llywodraeth leol ar wahanol bynciau, er enghraifft:

  • cyfraith newydd arfaethedig y Cynulliad (Mesur);
  • craffu ôl-ddeddfwriaethol ar ddeddfau cyfredol y Cynulliad.
  • penderfyniadau polisi a wneir gan Lywodraeth Cymru; neu
  • mater (ymholiad) sydd o fewn cylch gorchwyl y pwyllgor.

Mae CLlLC yn croesawu’r cyfle i gyfrannu at waith pwyllgorau CCC gan ei bod yn debygol y bydd goblygiadau i lywodraeth leol yn ddiweddarach, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.

Mae’r CLlLC yn aml yn darparu tystiolaeth ysgrifenedig cyn mynychu, sy’n cael ei pharatoi yn dilyn ymgynghoriad a phartïon perthnasol o fewn ac oddi allan i lywodraeth leol. Daw’r dystiolaeth hon yn sail i drafodaethau gyda’r Aelodau Cynulliad sy’n eistedd ar y pwyllgor ar y diwrnod.

Daw cynrychiolaeth CLlLC mewn cyfarfod pwyllgor o blith y canlynol:

  • Llefarwyr CLlLC
  • Aelodau Cabinet â chyfrifoldebau portffolio
  • Uwch Swyddogion Awdurdod Lleol
  • Uwch Swyddogion CLlLC
  • Ymgynghorwyr CLlLC

Mae CLlLC hefyd yn darparu tystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer pwyllgorau mewn ymateb i:

  • gwestiynau ysgrifenedig penodol perthnasol i lywodraeth leol a godwyd mewn cyfarfodydd pwyllgor a ble gofynnwyd am ymateb gan CLlLC;
  • ymarfer ymgynghori ar ran pwyllgor i gefnogi ymholiad neu gyfraith newydd; neu
  • gwybodaeth ychwanegol at ymholiad sydd ar y gweill neu gyfraith newydd  

Mae rhagor o wybodaeth am dystiolaeth ysgrifenedig CLlLC i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar gael o’r ddewislen gyferbyn neu drwy ymweld â thudalennau ein gwefan ar Ddeddfwriaeth a DeddfwriaethCraffu ôl Ddeddfwriaethol.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Barry Williams

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni
   Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tŷ Llywodraeth Leol
Rhodfa Drake
Caerdydd, CF10 4LG

Ffôn : 029 2046 8600
E-bost : enquiry@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30