Datganiad yr Hydref “Siomedig” yn methu â mynd i’r afael â phwysau aruthrol ar wasanaethau lleol

Dydd Mercher, 22 Tachwedd 2023

Mae CLlLC ac undebau llafur wedi mynegi siom ar y cyd ynghylch Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU, wrth i gynghorau barhau i wynebu diffyg o £411m yn y gyllideb y flwyddyn nesaf ar gyfer gwasanaethau lleol a allai gael effaith ddinistriol ar gymunedau.

 

Fel y galwodd CLlLC, bydd y Lwfans Tai Lleol (LTLl) yn cael ei adfer i'r 30ain canradd. Croesewir hefyd y gostyngiad mewn Yswiriant Gwladol a'r cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol. Fodd bynnag, bydd yn rhaid i gynghorau yng Nghymru wneud penderfyniadau anodd dros ben o hyd mewn perthynas â darparu gwasanaethau oherwydd yr argyfwng ariannu sy’n gwasgu cyllidebau fel erioed o’r blaen.

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd WLGA:

 

“Rydym yn croesawu’r toriad mewn Yswiriant Gwladol a’r cynnydd yn y Cyflog Byw Gwirioneddol a gyhoeddwyd gan y Canghellor heddiw. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Lywodraeth y DU am wrando ar ein galwad am adfer y lwfans LTLl i’r 30ain canradd. Ond, doedd ddim lawer o gefnogaeth i gynghorau Cymru yn y Ddatganiad yr Hydref siomedig hwn, nac ychwaith i fynd i’r afael â’r twll du yn y gyllideb o £411m a wynebir gan gynghorau y flwyddyn nesaf yn unig. Wedi'u gadael heb eu hariannu, gallai gwasanaethau gael eu dirywio. Mewn sefyllfa o’r fath, byddai gennym bryderon mawr am ddarparu gwasanaethau hanfodol ac am ein gweithlu gwych ledled Cymru sy’n cyflawni rolau hanfodol yn ein cymunedau.

 

“Mae gwasanaethau lleol ar eu gliniau oherwydd chwyddiant aruthrol a chostau, a galw cynyddol. Ynghanol argyfwng costau byw parhaus, sy’n cael ei waethygu gan gostau cyfleustodau cynyddol, mae ar ein cymunedau caled angen eu gwasanaethau lleol – fel gofal cymdeithasol, ysgolion, a thai – yn fwy nag erioed o’r blaen. Mae angen cymorth ar frys i atal yr effeithiau dinistriol posibl ar fywydau a bywoliaethau.”

 

DIWEDD –

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30