“Mae dyfodol gwasanaethau pob dydd sy’n cael eu dibynnu arnyn nhw bob dydd yn y fantol, megis ysgolion, gofal cymdeithasol, gwasanaethau amgylcheddol, llyfrgelleodd, gwasanaethau ieuenctid a diogelu’r cyhoedd.
“Mae cynghorau yn delio gyda pwyseddau ar raddfa sydd erioed wedi ei weld o’r blaen. Caiff gwasanaethau hanfodol eu gwasgu i’r asgwrn gan chwyddiant, biliau ynni afresymol a chostau eraill.
“Wrth i’r galw ar wasanaethau gynyddu o ganlyniad i’r argyfwng Costau Byw, mae Datganiad yr Hydref yn rhoi cyfle i Lywodraeth y DU fuddsoddi mewn gwasanaethau lleol fel bod cynghorau yn gallu helpu cymunedau trwy’r amseroedd anodd. Mae’r dewis amgen o ragor o gynni yn peryglu dyfodol y gwasanaethau hollbwysig yma.”
DIWEDD -