Awdurdodau lleol yn llongyfarch myfyrwyr ar eu canlyniadau

Dydd Gwener, 19 Awst 2022

Mae’r Cynghorydd Ian Roberts, llefarydd Cymdeithas Lywodraeth Leol dros addysg, wedi llongyfarch myfyrwyr ar draws Cymru sydd wedi derbyn eu canlyniadau Safon Uwch, ac Uwch Gyfrannol heddiw, ddydd Iau, 18 Awst 2022.

Dywedodd fod canlyniad pob unigolyn yn gyflawniad anhygoel o ystyried bod y myfyrwyr wedi dychwelyd i arholiadau ac asesiadau ffurfiol Safon Uwch ac UG eleni, am y tro cyntaf ers 2019.

Mae canlyniadau Safon Uwch Cymru yn dangos bod 98.0% o fyfyrwyr wedi ennill graddau A* - E. Enillodd 17.1% o ymgeiswyr radd A*, ac enillodd 40.9% raddau A*- A.

Yng Nghymru, mae cyfradd gyffredinol y gwrywod a benywod yn llwyddo yn gymharol debyg gyda 97.6% o gofrestriadau pwnc gan wrywod yn ennill graddau A* - E, o gymharu â 98.3% o gofrestriadau gan fenywod. Fodd bynnag, mae benywod erbyn hyn yn cyflawni'n well na'r gwrywod ar raddau A*-A, er bod y gwrywod yn cyflawni'n well na'r benywod gan 1.8 pwynt canrannol ar A*.

Dywedodd llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Addysg, y Cynghorydd Ian Roberts:

"Ar ran awdurdodau lleol Cymru, hoffwn longyfarch y myfyrwyr i gyd ar eu canlyniadau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol, a gyhoeddwyd heddiw. Mae eu llwyddiannau yn rhyfeddol o ystyried fod Covid-19 dros y ddwy flynedd ddiwethaf wedi taflu cysgod dros eu haddysg, gyda'r pandemig yn amharu ar lawer o addysg y myfyrwyr.

"Ni fyddai eu llwyddiant yn bosibl heb gefnogaeth athrawon, staff mewn ysgolion a rhieni ledled Cymru sydd wedi annog y bobl ifanc â'u hastudiaethau, ac i wireddu eu potensial. Mae pawb sy'n rhan o'r system addysg yng Nghymru ar bob lefel wedi eu hymrwymo i roi'r cyfleoedd gorau i ddisgyblion a chynnig amgylchedd gefnogol i fyfyrwyr ddatblygu fel unigolion. Hoffem ddymuno'r gorau i'r bobl ifanc eithriadol hyn yn eu dyfodol ym mha bynnag lwybrau y maent yn penderfynu eu dilyn."

I unrhyw un sydd ddim wedi derbyn y canlyniadau roedden nhw eisiau, neu sy'n ansicr am eu camau nesaf, cysylltwch â Gyrfa Cymru i dderbyn cyngor, neu siaradwch â'ch ysgol neu goleg.

Postio gan
Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30