Croesawir cynnydd mewn cyllid bysiau fel un “hanfodol” i ddiogelu gwasanaethau

Dydd Mercher, 21 Ionawr 2026

Mae cynghorau yng Nghymru wedi croesawu'r cynnydd mewn cyllid bysiau a nodir yng Nghyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru, gan ddweud bod y cynnydd yn hanfodol i helpu i gynnal gwasanaethau ar adeg o gostau gweithredu cynyddol a chyn y symud tuag at fasnachfreinio bysiau. 

Mae'r Gyllideb Derfynol yn cynnwys £6 miliwn ychwanegol mewn cyllid refeniw a £10 miliwn mewn buddsoddiad cyfalaf ar gyfer gwasanaethau bysiau. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd CLlLC: 

“Rydym yn croesawu'r buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau bysiau a gyhoeddwyd yn y Gyllideb Derfynol. Gyda'r gost o redeg gwasanaethau yn parhau i godi, roedd y cynnydd hwn yn hanfodol i helpu cynghorau i gynnal lefelau gwasanaeth presennol a chynnal cysylltedd ar gyfer cymunedau ledled Cymru. 

“Rwyf am ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet, Ken Skates, am wrando ar randaliad bysiau a chydnabod pwysigrwydd sicrhau cyllid nawr wrth i ni symud tuag at fasnachfreinio bysiau. Bydd buddsoddiad cynaliadwy parhaus yn hanfodol i sicrhau bod y trawsnewidiad yn cyflawni i deithwyr, cynghorau a'r economi ehangach.” 

Categorïau: Newyddion

  Amdanon ni

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30