Diwrnod Hawliau Gofalwyr: CLlLC yn canmol gofalwyr di-dâl "hanfodol" wrth i bwysau ariannu fygwth gofal cymdeithasol

Dydd Iau, 21 Tachwedd 2024

Ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr, mae cynghorau Cymru yn galw am gynnydd brys mewn cyllid er mwyn sicrhau bod cynghorau yn gallu darparu'r gefnogaeth angenrheidiol i ofalwyr di-dâl.

 

Mae cynghorau'n cefnogi gofalwyr drwy ddarparu cyngor, gwybodaeth, eiriolaeth ac asesiadau, ac mae gan bob gofalwr hawl i gael mynediad ato.  Fodd bynnag, mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn wynebu pwysau ariannol amcangyfrifedig o £559 miliwn ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae gofal cymdeithasol yn cyfrif am 40% o'r bwlch hwn.

 

Mae Cyfrifiad 2021 yn amcangyfrif bod mwy na pump miliwn o ofalwyr di-dâl yng Nghymru a Lloegr, tua 9% o'r boblogaeth. Mae ymchwil mwy diweddar gan Carers UK yn awgrymu y gallai'r ffigur hwn fod mor uchel â 10.6 miliwn, gan dynnu sylw at y nifer sylweddol o unigolion a allai fod angen cymorth y gallai cynghorau ei chael hi'n anodd ei ddarparu heb gyllid ychwanegol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Morgan, llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: 

 

"Mae gofalwyr di-dâl yn hanfodol i atal argyfyngau a lleihau'r galw am wasanaethau. Mae cynghorau'n eu hystyried yn rhan allweddol o'r gweithlu gofal cymdeithasol ehangach, ochr yn ochr â gwirfoddolwyr a staff cyflogedig. Ar ran holl arweinwyr cynghorau Cymru, hoffwn ddiolch iddynt am eu hymroddiad a'u gofal."

"Mae cynghorau ar draws y wlad yn gweithio'n galed i sicrhau bod gofalwyr yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt. Fodd bynnag, mae'r galw am wasanaethau a chymhlethdod angen yn cynyddu, mae cyllidebau'n dynnach, ac mae teuluoedd dan fwy o bwysau. Mae costau byw a heriau cynyddol wrth recriwtio a chadw'r gweithlu gofal cymdeithasol yn gwaethygu'r sefyllfa."

"Mae'r rhan fwyaf o gynghorau eisoes yn gwario uwchlaw'r cyllid a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol. Heb fwy o gyllid, bydd rhai cynghorau'n ei chael hi'n anodd cydbwyso cyllidebau. Bydd hyn yn gwaethygu'r pwysau presennol ac yn effeithio'n sylweddol ar y gallu i ddarparu gofal a chymorth amserol ac o ansawdd da i'r rhai sydd ei angen, pan fydd ei angen arnynt. Mae'r canlyniadau anfwriadol yn ychwanegu at y pwysau a'r heriau sy'n wynebu gofalwyr."

 

 

DIWEDD –

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30