Cynllun pwyllog ac arloesol ar gyfer disgyblion i “Ddod i’r Ysgol, Dal Ati i Ddysgu, Paratoi ar gyfer yr Haf a mis Medi” o 29ain Mehefin yn cael ei groesawu gan gynghorau

Dydd Mercher, 03 Mehefin 2020

Yn ymateb i’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg heddiw, dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts (Sir Y Fflint), Llefarydd CLlLC dros Addysg:

 

“Mae’r ffordd hon ymlaen yn rhoi cyfle i bob plentyn i gael gweld eu ffrindiau ac athrawon wyneb-i-wyneb, o fewn niferoedd cyfyngedig dros gyfnod o bedair wythnos, mewn ysgolion a fydd wedi cael eu teilwra’n sylweddol ar gyfer pellhau cymdeithasol. Mae’n gyfle gwerthfawr dros  ben i ddisgyblion i ddod i’r ysgol a dal ati i ddysg dros wythnosau olaf y tymor, sydd yn bwysig i sicrhau y bydd disgyblion, teuluoedd, ac athrawon dysgu a staff ysgol fel eu gilydd yn barod yn feddyliol, emosiynol ac yn ymarferol ar gyfer profiad tebyg ym mis Medi.

“Sicrha’r cynllun na fydd rhieni yn cael eu cosbi am beidio derbyn y cynnig yma oherwydd unrhyw bryderon posib o ran diogelwch – bydd presenoldeb yn wirfoddol.

“Bydd awdurdodau lleol, prifathrawon ac undebau dysgu yn trafod yr anghenion gweithredol i gyflwyno’r cynllun yma mewn lleoliadau ysgol unigol.”

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:

“Rydyn ni’n croesawu’r dull gofalus ac ystyriol yma gan y Gweinidog heddiw. Bydd awdurdodau lleol yn cymryd amser i weithio trwy manylion y canllawiau i sicrhau bod y trefniadau perthnasol i gyd yn eu lle. Mae awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru ac undebau addysg i gyd wedi cydweithio dros yr wythnosau diwethaf ar ffordd ymlaen sydd wrth fodd pawb.

“Mae gennym ni dair wythnos a hanner hyd nes y bydd y cynllun yn dod yn fyw, sy’n rhoi cyfle i ni i gyd i weithio gyda’n gilydd i roi’r trefniadau angenrheidiol mewn lle mewn ysgolion i groesawu disgyblion ar sail wirfoddol.”

 

-DIWEDD-

 

NODIADAU I OLYGYDDION: Ceir rhagor o fanylion am gynllun y Gweinidog Addysg yma: https://llyw.cymru/dod-ir-ysgol-dal-ati-i-ddysgu-paratoi-ar-gyfer-yr-haf-mis-medi

 

 

Categorïau: Dysgu gydol oes Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30