Mae CLlLC wedi croesawu cyllid ychwanegol i Gymru a gyhoeddwyd yng nghylideb Llywodraeth y DU. Cyhoeddodd y Canghellor gynnydd blynyddol o £2.5bn i gyllideb Llywodraeth Cymru dros y dair mlynedd nesaf, fydd yn rhoi cyfle i weinidogion i fuddsoddi mewn gwasanaethau lleol hollbwysig megis gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:
“Tra’r ydyn ni yn cymryd amser i bori dros oblygiadau cyhoeddiadau’r Gyllideb, rwy’n croesawu’r £2.5bn o gyllid ychwanegol fydd yn helpu Llywodraeth Cymru i roi hwb i wasanaethau cyngor lleol. Gwnaeth yr argyfwng COVID agor llu o llygaid i bŵer gwasanaethau cyngor megis gofal cymdeithasol a iechyd amgylcheddol yn ein cymunedau, a bydd y cyllid yma’n helpu i gydnabod eu cyfraniad aruthrol yn gwella bywydau.”
Dywedodd y Cynghorydd Richard John (Sir Fynwy), Llefarydd CLlLC dros Berthnasau Rhynglywodraethol a Chodi’r Gwastad:
“Dyma gyllideb feiddgar a gyhoeddwyd gan y Canghellor heddiw sydd yn gweld Llywodraeth Cymru yn derbyn hwb iachus iawn o £2.5bn dros y dair mlynedd nesaf. Bydd hynny’n rhoi digon o gyfle i weinidogion fuddsoddi yng ngwasanaethau cyhoeddus hollbwysig Cymru gan gynnwys ein system gofal cymdeithasol sy’n gwegian dan bwysau, ac ein ysgolion. Yn y gyllideb hon, mae llywodraeth y DU unwaith eto wedi dangos ei hymrwymiad i bob cornel or Deyrnes Unedig, a rwy’n gobeithio’n arw y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd y cyfle nawr i ddangos ei hymrwymiad i fuddsoddi mewn cymunedau lleol.”
“Yn ogystal â’r prif gyhoeddiad, roedd yr Adolygiad Gwariant hefyd yn cynnwys newyddion o geisiadau llwyddiannus gan gynghorau i’r gronfa Codi’r Gwastad. Bu deg o’r ceisiadau a ddaeth i law yn llwyddiannus ac, o ganlyniad, bydd cyfanswm o £121m nawr yn cael ei wario mewn chwe ardal awdurdod lleol. Nid oedd yr holl geisiadau a ddaeth i law yn llwyddiannus, a ni wnaeth pob cyngor geisio yn y rownd gyntaf. Ond fe fydd cyfleon eraill i ymgeisio mewn rowndiau i ddod. Daeth dim rhagor o fanylion gan y Canghellor am y Gronfa Ffyniant Gyffredin, sef y gronfa fydd yn olynu’r cyllid a fu gan yr Undeb Ewropeaidd.”
Y Cynghorydd Rob Stewart (Abertawe), Dirprwy Arweinydd CLlLC a Llefarydd dros Ddatblygu Economaidd, Buddsoddi Mewnol ac Ynni:
“Rwy’n croesawu’r cyllid ychwanegol sydd wedi ei gyhoeddi i Gymru. Ond rwy’n siomedig iawn fod sawl ardal, gan gynnwys fy awdurdod fy hun yn Abertawe, wedi derbyn dim cefnogaeth o’r gronfa Codi’r Gwastad. Bu llawer o gynghorau yn gweithio’n galed i dynnu ceisiadau ynghyd ond bydd cymunedau yn teimlo fel eu bod wedi eu hamddifadu heddiw. Er fod Cymru wedi derbyn tua 7% o’r cyllid codi’r gwastad a ddyranwyd ar draws y DU, mae’n bwysig nodi mai prosiectau mewn dim ond chwech o’r 22 ardal cyngor fydd yn derbyn cyllid.
“Rydyn ni’n dal i ymaros manylion am y Gronfa Ffyniant Gyffredin sydd i fod i olynu cyllid yr UE. Mae ei ddirfawr angen os ydyn ni’n mynd i ddychwelyd i’r lefelau o gyllid datblygu economaidd oedd yn dod i Gymru o’r UE cyn Brexit. Roedden ni’n ofni na fydden ni’n gweld yr un lefelau o gyllid yn dod o Lundain ag yr oedd o Frwsel a, hyd yn hyn, mae hynny wedi cael ei brofi’n gywir.”
“Rwyf hefyd yn pryderu ein bod ni yn dal heb glywed am ganlyniadau o’r Gronfa Adfywio Cymunedol. Dyw hynny ddim yn argoeli’n dda gan bod rhain wedi cael eu gaddo nôl yng Ngorffennaf a rydyn ni nawr yn brysur ddod i fis Tachwedd. Rwy’n deall fod estyniad i 2022/23 o dan ystyriaeth, rwy’n gobeithio y gall cadarnhad ar y pwynt hynny, ac ar geisiadau llwyddiannus o’r gronfa, ddod cyn gynted a phosib. Mae pobl Cymru yn haeddu cael eu trin yn decach na mae nhw ar hyn o bryd.”