Yn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar effaith coronafeirws ar iechyd a gofal cymdeithasol hyd yma dywedodd y Cynghorydd Huw David (Penybont ar Ogwr), Llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
“Mae coronafeirws wedi taro ein sector gofal cymdeithasol fel ton enfawr. Mae ein gwethlu ardderchog wedi bod ar y rheng flaen trwy gydol yr argyfwng yn gwneud popeth allen nhw i amddiffyn ac i ofalu am ein trigolion mwyaf bregus ar amser mor dyngedfennol. Rhaid i ni i gyd ddysgu gwersi o’n profiadau yn ystod y pandemig. Yn yr adroddiad heddiw mae nifer o argymhellion i Lywodraeth Cymru a byddwn ni’n gweithio gyda’r llywodraeth ac eraill i fynd i’r afael a materion allweddol gyda’r gobaith y bydd yn ein cefnogi ni i i gyd wrth i ni barhau i ymateb i’r argyfwng a llacio’r cyfyngiadau.
“Er ei bod yn glir ein bod ni bellach wedi pasio brig cyntaf y feirws, mae risg o hyd i’n pobl oedrannus a’r pobl mwyaf bregus. Mae’n hanfodol ein bod ni’n gweithio gyda’n gilydd i wneud yn siwr bod cyflenwad dibynadwy a chynaliadwy o PPE ar gael i’r holl weithwyr gofal cymdeithasol a iechyd sydd ei angen, ynghyd ag eraill, a bod y system brofi yn aros yn flaenoriaeth.
“Ni all effaith y feirws gael ei orddweud, yn enwedig ar gartrefi gofal. Mae llywodraeth leol yn awyddus i weithio gyda phartneriaid eraill i sicrhau bod yr holl gartrefi gofal yn cael eu cefnogi’n briodol le bynnag mae achosion yn cael eu hadrodd, ynghyd â bod yn rhagweithiol yn gwneud popeth gallwn ni i atal y feirws rhag dod i fewn i’n cartrefi gofal. Bydd angen ymdrech ar y cyd i amddiffyn trigolion hŷn a bregus yn ein cartrefi gofal, ac angen cadw llygad gofalus ar y sefyllfa ar y lefel leol. Dyw’r haint heb ein gadael ni, a rydyn ni angen bod yn wyliadwrus i gefnogi ein trigolion ac i leihau effaith yr haint erchyll yma.
“Ar fyrder, mae cynghorau wedi cyflwyno gwasanaethau newydd yn ogystal a chynnal eu gwasanaethau arferol, i wneud yn siwr fod pobl yn cael eu cefnogi ac ein bod ni’n gadael neb ar ôl. Mae llywodraeth leol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cynghorau a gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cael cyllid digonnol dros yr wythnosau a misoedd anodd sydd i ddod. Mae’n bwysig bod y cyllid angenrheidiol yn cael ei ddaparu i Gymru gan Lywodraeth y DU trwy gyllido gofal cymdeithasol, fel amlygwyd yn ddiweddar gan Brif Weithredwr y GIG yn Lloegr.”
“Mae ein gweitwyr gofal cymdeithasol anhygoel â’r GIG ar reng flaen y frwydr yn erbyn yr haint marwol yma. Mae’n hollbwysig eu bod nhw’n cael eu gwerthfawrogi’n llawn ac yn cael eu trin gyda’r parch a chydraddoldeb y mae nhw’n ei haeddu.”
-DIWEDD-