Cynghorau yn croesawu £30m ar gyfer gofal cymdeithasol ond yn rhybuddio bod pwysau yn parhau

Dydd Mawrth, 12 Awst 2025

Bydd £30 miliwn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol yn y gymuned yn helpu i leddfu'r pwysau ar wasanaethau gofal cymdeithasol ac ysbytai y gaeaf hwn, ond mae cynghorau'n rhybuddio bod angen buddsoddiad cynaliadwy parhaus i sicrhau bod gwasanaethau ar gael pan fo angen ac i fynd i'r afael â galw cynyddol, prinder gweithlu, a chwyddiant.

Bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn cael ei rannu ymhlith awdurdodau lleol i gryfhau gofal cymdeithasol yn y gymuned a chyflymu rhyddhau ysbytai. Bydd cynghorau yn ei ddefnyddio i gefnogi asesiadau amserol a sicrhau pecynnau gofal, fel y gall pobl adael yr ysbyty yn ddiogel a derbyn cymorth gartref.

Mewn llawer o feysydd, bydd y buddsoddiad hefyd yn helpu i ariannu gwaith ataliol, fel timau amlddisgyblaethol sy'n lleihau derbyniadau i'r ysbyty y gellir eu hosgoi ac yn cefnogi pobl i aros yn annibynnol am gyfnod hirach.

Mae awdurdodau lleol yn darparu'r mwyafrif o wasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru, gan weithio'n agos gyda byrddau iechyd i sicrhau rhyddhau ysbyty diogel ac amserol. Fodd bynnag, mae cyllidebau gofal cymdeithasol yn parhau i fod dan straen difrifol, gyda llawer o gynghorau eisoes yn gwario mwy nag y maent yn ei dderbyn i ddiwallu anghenion brys.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn galw am barhau i weithio mewn partneriaeth a chynllun cyllido cynaliadwy, hirdymor i sicrhau bod gofal cymdeithasol yn gallu cadw i fyny ag anghenion cynyddol cymunedau ledled Cymru.

 

Dywedodd y Cynghorydd Charlie McCoubrey, llefarydd CLlLC dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

"Mae'r cyllid hwn yn hwb i'w groesawu i helpu cynghorau a'r GIG i weithio gyda'i gilydd fel y gall pobl adael yr ysbyty cyn gynted ag y byddant yn ddigon iach, gyda'r gofal cywir yn ei le gartref. Bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth leddfu pwysau y gaeaf hwn a chefnogi pobl i adfer yn y lle gorau iddyn nhw.

"Mae timau gofal cymdeithasol eisoes yn gweithio'n llwyd, ac er y bydd y buddsoddiad hwn yn helpu yn y tymor byr, mae angen i ni barhau i adeiladu arno gyda'n gilydd i wneud yn siŵr bod gwasanaethau yn gallu cwrdd â'r galw cynyddol yn y blynyddoedd i ddod."

  Amdanon ni

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30