Pedair Gwlad yn Uno i Eirioli dros Moesgarwch mewn Bywyd Cyhoeddus

Dydd Mawrth, 21 Hydref 2025

Cymdeithasau Llywodraeth Leol o bob rhan o’r DU yn ailddatgan ymrwymiad i ddiogelu cyfranogiad democrataidd

Mae’r Cymdeithasau Llywodraeth Leol sy’n cynrychioli Cymru, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Lloegr — y CLlLC, NILGA, COSLA a’r LGA — wedi dod at ei gilydd i gyhoeddi datganiad ar y cyd ar bwysigrwydd moesgarwch mewn bywyd cyhoeddus, gan fod bygythiadau, camdriniaeth ac aflonyddu yn erbyn cynghorwyr a swyddogion wedi dod yn fwy cyffredin. 

Mae cymunedau lleol yn ffynnu pan fydd pawb yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu cynnwys ac yn cael eu gwerthfawrogi. Fodd bynnag, mae pob un o’r pedair cymdeithas wedi mynegi pryder dwfn am y lefelau cynyddol o gamdriniaeth chwerw, ymosodiadau personol a chamwybodaeth – yn enwedig ar-lein – sy’n gyrru rhai cynghorwyr allan o fywyd cyhoeddus ac yn atal eraill rhag sefyll mewn etholiadau. 

Rhaid i gynrychiolwyr etholedig arwain drwy esiampl, gan fodelu’r ymddygiadau cadarnhaol sy’n cefnogi trafodaeth gyhoeddus gadarn ond barchus. Er bod craffu a dadl deg yn hanfodol mewn democratiaeth iach, nid oes lle i gamdriniaeth, bygythiadau nac aflonyddu mewn bywyd cyhoeddus. 

Mae’r LGA, NILGA, COSLA a’r CLlLC hefyd wedi galw ar Lywodraeth y DU i weithio mewn partneriaeth â’r llywodraethau datganoledig, cymdeithasau llywodraeth leol a’r heddlu i fynd i’r afael â chamdriniaeth ac aflonyddu sy’n wynebu unrhyw un mewn bywyd cyhoeddus – boed yn swyddogion, yn ymgeiswyr neu’n wleidyddion etholedig. 

Mae’r pedair cenedl yn sefyll gyda’i gilydd i fynd i’r afael ag ymddygiad camdriniol, gwrthsefyll camwybodaeth, ac i gefnogi cynghorau a chynghorwyr fel y gallant barhau i wasanaethu eu cymunedau gyda hyder ac urddas. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Llywydd y CLlLC: 
 

“Mae democratiaeth yn dibynnu ar bobl sy’n fodlon rhoi eu hunain ymlaen i wasanaethu eu cymunedau, ac mae hynny’n digwydd dim ond pan fydd pobl yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi ac yn ddiogel i wneud hynny. Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth gadw’r ddadl yn iach ac yn adeiladol. Mae’n iawn anghytuno, ond dylid gwneud hynny bob amser gyda pharch. Pan fyddwn yn gwrando, yn herio’n deg, yn gwirio cywirdeb yr hyn rydyn ni’n ei ddweud ac yn ei rannu ar-lein, ac yn trin ein gilydd yn dda, rydyn ni’n creu’r math o ddiwylliant sy’n annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.” 

Categorïau: Newyddion

  Amdanon ni

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30