Cyhoeddiad porthladd rhydd

Dydd Mawrth, 28 Mawrth 2023

Wrth gyhoeddi’r ceisiadau llwyddiannus, meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan Arweinydd CLlLC: “Mae hyn yn newyddion da i Gymru. Hoffwn longyfarch y tri chyngor a’u partneriaid am sicrhau statws porthladd rhydd. Mae’r cynigion ar gyfer Ynys Môn ac ar gyfer Chastell-nedd Port Talbot a Sir Benfro yn gyffrous ac mae ganddynt botensial mawr i greu buddsoddiad a swyddi newydd, gwyrdd”. 

 

Meddai’r Cynghorydd Rob Stewart, Dirprwy Arweinydd CLlLC a Llefarydd ar yr Economi: “Dyma enghraifft dda iawn o gydweithredu rhwng llywodraethau ar sawl lefel, rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol, yn gweithio gyda phartneriaid lleol. Mae CLlLC yn dymuno pob llwyddiant i’r ddau borthladd rhydd a byddwn yn awyddus i ddysgu gwersi. Er bod Casnewydd a’i bartneriaid yn siomedig nad yw eu cais wedi llwyddo, gobeithio y bydd cyfleoedd i ehangu’r fenter porthladd rhydd yn y dyfodol, yn sgil profiad”.

Categorïau: Newyddion

  About

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru.

  Cysylltwch â ni

Ffôn : 02920 468680
E-bost : enquiries@wlga.gov.uk
Oriau busnes : Llun - Iau 8:30 - 5:00, Gwen - 08:30 - 16:30